Pwythau Brodwaith o Waith Llaw

 

This face-to-face course (with additional supporting information on Blackboard) will cover the Welsh Sampler stitching tradition from the mid-1800s; its origin and stitches. Reference is made to the Tapestry of the Last Invasion of Fishguard which was created by a community of embroiderers. Students will work on class projects and self-directed projects during the course, creating a small piece and planning a larger piece that can be completed after the course is over. Using basic stitches and bright threads, you will create a beautiful, personalized object

Key Facts

 

Language:  Welsh 

Duration: 7 Weeks 

Number of Credits: 10

Tutor: Eleri Gould 

Learning Method: Face to face  

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD15410

Fee: Free - Fee Waiver Scheme available (see conditions below)

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)

 

Amlinell 

Bydd y cwrs wyneb yn wyneb hwn (gyda gwybodaeth gefnogol ychwanegol ar Blackboard) yn ymdrin â thraddodiad pwytho'r Sampler Cymreig o ganol yr 1800au; ei darddiad a'i bwythau. Cyfeirir at Dapestri'r Goresgyniad Olaf o Abergwaun a grëwyd gan gymuned o frodwyr. Bydd y myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau dosbarth a phrosiectau hunangyfeiriedig yn ystod y cwrs, gan greu darn bach a chynllunio darn mwy y gellir ei gwblhau ar ôl i'r cwrs orffen. Gan ddefnyddio pwythau sylfaenol ac edafedd llachar, byddwch yn creu gwrthrych hardd wedi'i bersonoli.

Rhaglen y Cwrs

Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda thrafodaeth ac eglurhad o gyd-destun pwnc y dydd. Bydd y myfyrwyr yn copïo enghraifft ac yn cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu wrth greu cynllun ar gyfer prosiect personol.

  • Sesiwn Un:
    Trosolwg cyffredinol o'r cynnwys: Sampleri Cymreig cynnar
    Creu borderi gyda phwythau cyfunol. Cychwyn llyfr cofnod pwythau
    Arddangosiad gan y tiwtor. Pwyth ôl wedi'i chwipio, Pwyth Satin, Cwlwm Ffrengig a gwaith Torri
    Astudiaeth gartref: Dyluniadau ar gyfer brodwaith micro
  • Sesiwn Dau:
    Trafodaeth grŵp: Beth allwn ni ei ddysgu o dapestri'r Goresgyniad Olaf?
    Arddangosiadau Pwyth cadwyn gyda dau liw, Pwyth Rhosyn, cyflwyno clymu ac edafu rhuban
    Creu eirlys yn y dosbarth
  • Sesiwn Tri:
    Trosglwyddo dyluniad i ddefnydd. Arddangosiad
    Pwyth Hollt, Pwyth Syth Troëdig a chyflwyno gleiniau hadau
    Trafodaeth ar Frodwaith Edafedd
    Astudiaeth Gartref: dechrau ar forder y prosiect personol
  • Sesiwn Pedwar:
    Defnyddio Edau Lin Garw.
    Asesiad o frodwaith micro
    Astudiaeth gartref: Parhau â’r prosiect personol
  • Sesiwn Pump:
    Hirbwytho a byrbwytho i raddliwio
    Dewis deilen neu flodyn ar gyfer y llyfr cofnod
    Pwyth hollt a chymysgu lliwiau Pwytho cyfeiriadol i greu gwahanol effeithiau
  • Sesiwn Chwech
    Pwyth Satin Cwiltiog i greu buwch goch gota neu chwilen. Defnyddio edafedd metelig
    Tiwtorialau personol
  • Sesiwn Saith
    Cyflwyno’r prosiect personol, nid oes angen i hwn gael ei gwblhau, ond gellir dangos cynllun.
    Pwyth asgwrn pysgodyn a dangos banc pwythau yr Ysgol Frenhinol Gwniadwaith i'r myfyrwyr.
    Enghraifft o bwyth criwl ar thema pomgranad.
    Asesiad o'r llyfr cofnod a'r prosiect hunangyfeiriedig

Canlyniadau Dysgu 

  1. Llunio bwrdd syniadau gan ddefnyddio cyfuniad o'r sgiliau a ddysgwyd
  2. Cofnodi'r broses a'r canfyddiadau yn y llyfr cofnod
  3. Gwneud a dangos gwaith ymchwil ar gyfer y darn astudiaeth gartref

Asesiadau 

  • Cwblhau bwrdd sampl
  • Cofnod cwrs o bwythau a samplau
  • Creu bwrdd syniadau ar gyfer cynllun ac ymchwil

Beth sydd ei angen arnaf?