Marchnata ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Key Facts
Language: Cymraeg
Duration: TBC
Number of Credits: 5
Tutor: TBC
Learning Method: Online
Level: This module is at CQFW Level 3
Code (module): YD03905
Fee: £70.00 - Fee waiver scheme available
This course is currently unavailable for booking
Be the first to know when new dates are announced by joining our mailing list.
Amlinell
Mae'r cyfryngau cymdeithasol bellach yn cael eu defnyddio fel y prif gyfrwng i gyfeirio cwsmeriaid at wefannau. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i chi sefydlu twndis marchnata. Bydd y pynciau'n cynnwys dysgu ysgrifennu mewn arddull sy’n cyd-daro ag anghenion eich cwsmer, creu cynllun a llunio hashnodau o ansawdd sy'n targedu eich cynulleidfa ac yn denu cwsmeriaid newydd.
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r rhai sydd ar y cwrs fod yn gallu:
- Creu cyfres o hashnodau ar gyfer ymgyrch
- Llunio ymgyrch farchnata.
- Dadansoddi ymgyrch sydd eisoes yn bodoli (Astudiaeth Achos)
Rhestr Darllen
Reading suggestions will be offered throughout the course.
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
- Mynediad i'r rhyngrwyd.
- Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd.
- Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.