Creu Podlediadau
Key Facts
Language: Cymraeg
Duration: TBC
Number of Credits: 5
Tutor:
Learning Method: Online
Level: This module is at CQFW Level 3.
Code (module): YD14005
Fee: £70.00 - Fee waiver scheme available
Amlinell
Mae nifer ohonom yn defnyddio podlediadau i ddifyrru ein hamser wrth i ni wneud rhywbeth arall am 40 munud, yn yr un modd â gwrando ar y radio. Mae’n llwyfan amlbwrpas ar gyfer trafodaethau, gwybodaeth am bynciau sydd o ddiddordeb a hefyd at ddibenion adloniant. Wyddech chi fod y rhan fwyaf o bodlediadau wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r amser cymudo cyfartalog. Mae nifer o addysgwyr bellach yn defnyddio’r llwyfan i rannu deunydd addysgol gyda gogwydd. Mae podlediadau yma i aros ac mae’r radio traddodiadol wedi dioddef.
Bydd y modiwl hwn yn eich tywys drwy’r broses o gynllunio podlediad, y peryglon, y datganiad lifft, graffeg logo a marchnata yn ogystal â gofynion technegol. Byddwch yn astudio’r modiwl ar eich cyflymdra eich hun a cheir tasgau rhyngweithiol i gyfeirio eich penderfyniadau ar hyd y ffordd a’ch atal rhag chwythu’ch plwc.
Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r rhai sydd ar y cwrs fod yn gallu:
- Creu podlediad byr gan ddefnyddio Panopto.
- Dogfennu eich proses feddwl a phenderfyniadau o fewn cofnod o’r cwrs.
- Creu rhithffurf o’ch cynulleidfa darged.
Rhestr Darllen
Reading suggestions will be offered throughout the course.
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch:
- Mynediad i'r rhyngrwyd.
- Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd.
- Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.