Gwibdaith Drwy Lenyddiaeth Gymraeg

Course Details

Enrol Now

‘Gwlad beirdd a chantorion’ medd yr anthem genedlaethol am Gymru, a thros gyfnod o ddeg wythnos, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i rai o feirdd a llenorion Cymru. Bob wythnos trafodir un darn o lenyddiaeth o wahanol gyfnod, gan roi trosolwg o rai o brif themâu a ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg dros 1000 o flynyddoedd a mwy.
Bydd y sesiynau’n defnyddio cerddi a darnau o ryddiaith fel drws i agor trafodaeth am y gwaith, y bardd, yr hanes a’r gymdeithas. O’r Gododdin i Gwyneth Lewis, o Ddafydd ap Gwilym i Ddafydd Iwan, ceir cip ar Gymru drwy ei llenyddiaeth a chyfle hefyd i ddefnyddio a mireinio sgiliau iaith Gymraeg.
Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i astudio o gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein gyda myfyrwyr eraill. Cynigir y modiwl drwy'r 'y Bwrdd-du/Blackboard, sef ein hamgylchfyd dysgu rhithiol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’n addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhengoedd uchaf Dysgu Cymraeg ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae’r modiwl yn cynnig cymysgedd o ddysgu yn ôl eich amserlen eich hunain a seminarau byw ac ar-lein dros Microsoft Teams. Arweinir y sesiynau gan aelodau Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes.
Asesir y modiwl drwy gyfuniad o gyfieithiad a phrosiect. Gellir dewis darn cyfieithu o amrywiol destunau llenyddol (500 gair: 25%). Rhaid i’r prosiect fod ar un o’r beirdd a llenorion a gyflwynir yn ystod y cwrs (1500 gair: 75%).

Note

This module is at CQFW Level 4