Gwlân – Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
![Yr artist Ruth Jên gyda darn o’i gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan nodau clust defaid](/cy/news/archive/2015/07/ruth-1-web.jpg)
Yr artist Ruth Jên gyda darn o’i gwaith sydd wedi ei ysbrydoli gan nodau clust defaid
30 Gorffennaf 2015
Bydd yr artist Ruth Jên o Dalybont yng Ngheredigion yn trafod ei gwaith diweddaraf ‘Gwlân’ mewn sgwrs gyda’r darlledwr Dei Tomos ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar fore Mawrth 4 Awst am 11 o’r gloch.
Mae Ruth, sy’n adnabyddus am ei chyfres o ddarluniau o fenywod Cymreig, newydd gwblhau gradd MA mewn Celf yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Canolbwynt ei gwaith yw traddodiadau cneifio a nodau clust ffermydd mynydd yng Ngogledd Ceredigion, ac yn benodol fferm Gwenffrwd sydd rhwng Penrhyncoch a Phonterwyd, yng nghysgod mynydd Disgwylfa.
Cafodd ei hysbrydoli gan y traddodiad o wneud carthenni gwlân yn Nhalybont, pentref a fu unwaith yn ganolfan wehyddu o bwys, ac ers tair blynedd bu’n dogfennu’r gwaith o nodi clustiau’r ŵyn a diwrnod cneifio a’r traddodiadau cymdeithasol sy’n glwm gyda’r digwyddiadau hynny.
Bydd ffilm 5 munud o’i gwaith sy’n canolbwyntio ar symudiadau’r cneifiwr wrth gneifio, i’w gweld ar stondin Prifysgol Aberystwyth drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
Mewn adolygiad o’r gwaith gan Catrin M S Davies, a gyhoeddwyd yn y papur bro lleol, Papur Pawb, dywedodd: “Yr hyn sy’n gyffrous am y gwaith diweddara yw bod Ruth, nid yn unig wedi cofnodi, ond wedi mynd ati i ddathlu’r arferion ac i roi statws celfyddydol i elfennau o fywyd pob dydd ffermwyr defaid. Carfan o bobl sydd yn aml yn anweledig ac yn annealladwy i drigolion dinasoedd a threfi ond y mae dyrchafu gwaith a bywyd pobol felly yn ddwfn yn y gwaith .”
Am restr lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Maldwyn a’r Gororau ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/eisteddfod/.
AU24715