Newyddion
Diweddariad ynglyn â chymorth gydag Endnote
25/07/2024
O fis Medi 2024, ni fydd y llyfrgell bellach yn darparu cymorth uniongyrchol, hyfforddiant na sesiynau dysgu ar gyfer defnyddio Endnote (meddalwedd rheoli cyfeirnodi) i staff na myfyrwyr. Bydd meddalwedd Endnote yn dal i fod ar gael yn ganolog i’w lawr-lwytho i gyfrifiaduron myfyrwyr a staff.
Mae ein Cwestiynau Cyffredin Cymorth gyda Endnote yn cysylltu â chymorth cynhwysfawr a chyfredol ar-lein a chwestiynau cyffredin penodol gan ddarparwyr y feddalwedd, ochr yn ochr â gwybodaeth leol (PA) ynglyn â lawr-lwytho’r feddalwedd.
Mae Jisc Historical Texts yn dod i ben 31/07/2024: manylion y gwasanaethau a roddir yn ei le
23/07/2024
Ni fydd Jisc bellach yn darparu Jisc Historical Texts o’r 31/07/2024 ymlaen.
I wneud yn iawn am golli'r gwasanaeth hwn:
- Mae'r Llyfrgell wedi agor tanysgrifiad i Early English Books Online (EEBO) gan ddechrau ar 01/08/2024
- Bydd tanysgrifiad newydd hefyd i Eighteenth Century Collections Online (ECCO) ond oherwydd y costau bydd hwn am flwyddyn yn unig
- Mae mynediad agored eisoes i UK Medical Heritage Library (UKMHL) a’r British Library 19th Century Collection
- Gellir cael gafael ar deitlau sydd yn yr archif Jisc Journal Archive trwy ddarparwyr eraill
Cofiwch gysylltu â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk