Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i'r Blog Diweddariadau Gwasanaethau GG
AStRA allan o wasanaeth 08:00-12:00 ar ddydd Mawrth 07 Mai
03/05/2024
Mae system Cofnodion Myfyrwyr PA (AStRA) allan o wasanaeth o 08:00-12:00 ar ddydd Mawrth 07 Mai.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. Ni ddylai hyn effeithio ar unrhyw systemau APEX.Paratoi ar gyfer arholiadau
02/05/2024
Mae cyfnod yr arholiadau bron yma. Edrychwch ar ein harddangosfa adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen. Fe welwch lawer o gyngor ac adnoddau ymarferol ar ystod eang o sgiliau pwysig, gan gynnwys:
- adolygu effeithiol
- rheoli eich amser
- mynd i'r afael â chwestiynau arholiadau
Cymerwch gip ar yr 20 awgrym defnyddiol ar gyfer adolygu ac arholiadau yr argymhellwyd gan gyd-fyfyrwyr.
Cyngor ac arweiniad pellach ar gael yn SgiliauAber – Adolygu ac arholiadau: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/exams/
Arolwg a Grwp Ffocws Blackboard Learn Ultra
25/04/2024
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth am gasglu barn myfyrwyr am yr hyn yr ydych yn ei hoffi am Blackboard Learn Ultra.
Dyma flwyddyn academaidd gyntaf Blackboard Learn Ultra, felly mae angen eich adborth arnom i asesu ac i wella’ch profiad.
A wnewch chi gwblhau’r arolwg byr hwn: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/aber/eich-meddyliau-blackboard-learn-ultra
Bydd pob ymatebydd i’r arolwg yn cael cyfle i ennill lamp desg LED.
Cewch gyfle ar ddiwedd yr arolwg i nodi a fyddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn grwp trafod anffurfiol i wyntyllu eich profiadau o Blackboard Learn Ultra.
Dywedwch eich dweud!
Bydd yr arolwg yn agor Dydd Llun 29 Ebrill ac yn cau am hanner nos Dydd Sul 5 Mai.
Bwyd a diod yn y Llyfrgell
01/05/2024
Mi gewch chi ddod â diodydd poeth a diodydd oer mewn poteli/cwpanau gyda chaeadau a bwydydd oer (nad yw'n ddrewllyd nac yn seimllyd) i mewn i'r Llyfrgell.
Chewch chi ddim dod â bwydydd poeth o unrhyw fath, na bwyd tecawe sydd wedi oeri nac alcohol i mewn.
Byddwn yn gofyn ichi fynd â'ch bwyd allan os ydych yn torri'r rheolau hyn. Byddwch yn ystyriol o'r Llyfrgell a'r bobl eraill sy'n ei defnyddio hi os gwelwch yn dda.
Ein polisi llawn: https://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/fooddrink/
Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen dros Wyl y Banc 6 Mai
30/04/2024
Bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor fel arfer ar Ddydd Llun Gwyl y Banc 6 Mai, ond gyda gwasanaethau wedi’u staffio cyfyngedig. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth ar gau.
Gallwch wirio oriau agor ein llyfrgelloedd ar ein calendr oriau agor yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/opening-hours/
Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi'r Prif Siaradwr
03/05/2024
Mae'n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi'r prif siaradwr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.
Bydd yr Athro Lisa Taylor o Brifysgol Dwyrain Anglia yn ymuno â ni. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, neu i gyflwyno cynnig, gweler ein blogbost.
Sesiynau galw-heibio mathemateg ac ystadegaeth, Llyfrgell Hugh Owen
01/05/2024
Wyt ti’n cael trafferth gyda chwestiwn mathemateg neu ystadegaeth?
Chwilio am gymorth?
Ymwelwch â’r sesiwn galw-heibio mathemateg ac ystadegaeth wythnosol (yn ystod tymor)
- Dydd Iau
- 10:00-13:00
- Hwb Sgiliau, Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen (drws nesaf i’r man gwerthu)
Gallwch hefyd anfon neges e-bost i maths-help@aber.ac.uk os na allwch wneud y sesiwn galw-heibio.
Ffeithluniau cryno SgiliauAber
26/04/2024
Traethodau. Adroddiadau. Cyflwyniadau. Posteri academaidd. Cymryd nodiadau. Geiriau tasg.
- Eisiau deall beth mae aseiniad yn gofyn i chi ei wneud?
- Angen gwybod beth mae gair tasg penodol yn ei olygu?
- Chwilio am arweiniad a deunydd ar sut i ysgrifennu eich aseiniadau?
Mae yna gyfres newydd o ffeithluniau cryno ‘Sut i ysgrifennu…’ ar gael yn SgiliauAber:
Mwy o Lyfrau - Diweddariad
30/04/2024
Er mwyn cadw'r cynllun Mwy o Lyfrau yn agored o ganlyniad i gostau cynyddol, byddwn yn gostwng nifer y llyfrau o 8 i 5 y myfyriwr. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu 2 - 16 Mai
29/04/2024
Mai
02/05 Pedagodzilla Book Launch and Pod Attack Part One (L&T)
02/05 Pedagodzilla Book Launch and Pod Attack Part Two (L&T)
03/05 Pedagodzilla Book Launch and Pod Attack Part Three (L&T)
03/05 Pedagodzilla Book Launch and Pod Attack Part Four (L&T)
07/05 Generative AI Guidance for Staff (L&T Online)
09/05 Top Tips for Engaging Lectures, and why they work (L&T)
16/05 Generative AI Discussion Forum (L&T Online)
Lefel E ar ei newydd wedd
24/04/2024
Yr haf hwn, bydd newidiadau ar Lefel E (ail lawr) Llyfrgell Hugh Owen.
Byddwn yn symud rhai mannau i staff a myfyrwyr o gwmpas i greu gofod mwy i fyfyrwyr ac i greu rhagor o fannau astudio yng nghornel de-orllewinol y Llyfrgell. Bydd gan yr ardal astudio newydd olygfeydd dros y dref i’r môr ac yn cynnwys 6 ystafell astudio grwp newydd.
Am ragor o fanylion ar y newidiadau, gan gynnwys y dyddiadau allweddol a mapiau o'r ardaloedd a fydd yn newid, ewch i'n tudalen Newidiadau Lefel E
Defnyddio ystafelloedd astudio'r llyfrgell
12/04/2024
Rydyn ni'n gwybod ei bod yn boen os ydych chi am ddefnyddio ystafell astudio llyfrgell ond maen nhw i gyd wedi archebu.
Mae’n fwy o boen fyth os yw'r ystafell wedi'i harchebu, ond does neb yn ei defnyddio.
Cofiwch ganslo eich ystafell os nad oes ei hangen arnoch mwyach – e-bostiwch gg@aber.ac.uk – a byddwn yn rhyddhau'r ystafell ar gyfer myfyrwyr eraill.
Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol
22/04/2024
Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) mewn saith maes.
Darllenwch y blogbost hyn am wybodaeth pellach.
SgiliauAber
19/04/2024
Eisiau gwybod pa sgiliau academaidd sydd gennych chi?
Eisiau gwella eich sgiliau academaidd?
Chwilio am arweiniad ac adnoddau ar ddatblygu eich sgiliau academaidd?
SgiliauAber yw'r lle i fynd!
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk