Rhestrau Darllen
Myfyrwyr
Ble ydw i'n cael hyd i'r rhestr ddarllen am y modiwl rwy'n ei astudio?
Staff Dysgu
Defnyddiwch Restrau Darllen Aspire i archebu llyfrau ar gyfer modiwlau a ddysgir drwy gwrs
Dyma’r unig ddull y gall staff ei ddefnyddio i wneud cais am lyfrau a deunyddiau dysgu eraill y modiwlau trwy gwrs.
Os gwelwch yn dda ychwanegwch restrau darllen eich modiwl i Aspire erbyn y dyddiadau yma er mwyn sicrhau bod staff Llyfrgell PA yn medru cyflenwi llyfrau a deunyddiau dysgu eraill cyn bo dysgu yn cychwyn.
- Hyfforddiant hunan-ddysgu (Chwestiynau Cyffredin)
- Dysgu am fanteision defnyddio Rhestrau Darllen Aspire
Unwaith eich bod wedi cyhoeddi eich Rhestr Ddarllen yn Aspire bydd modd ichi ei gweld ar lein
- Yn y modiwl yn Blackboard (ar ôl un awr)
- Trwy'r dudalen adref yn Aspire.
- Ar dudalen modiwlau PA
Bydd staff Llyfrgell PA wedyn yn gwirio, prynu a digideiddio eitemau ar gyfer stoc y Llyfrgell yn unol â’r Polisi Rhestrau Darllen.
Os nad ydych wedi cael eich hyfforddi eto, neu os oes angen cymorth ag Aspire, cysylltwch â'r tîm Ymgysylltu Academaidd llyfrgellwyr@aber.ac.uk 01970621896. Mae llyfrgellwyr pwnc y Brifysgol yn barod i'ch helpu.
Dysgwch am y datblygiadau diweddaraf ym mhrosiect Rhestrau Darllen Aspire.