Office 365 - E-bost
Mae Office 365 yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio:
- Cleient e-bost yn y cwmwl gyda Chalendrau a Chysylltiadau yn rhan ohono - gallwch weld eich e-bost, calendr a chysylltiadau o'ch cyfrifiadur, y we, a dyfais symudol o unrhyw le yn y byd
- OneDrive gydag apiau gwe Office (Word, Excel, PowerPoint, OneNote)
- 1TB o le storio ar y Cwmwl ar gyfer eich negeseuon e-bost a’ch dogfennau
- Cymorth mewn nifer o ieithoedd
- Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Access, Publisher, Outlook, Teams a Bookings i'w gosod yn rhad ac am ddim ar eich cyfrifiadur eich hun (Sut mae gwneud hynny?)
Diogelwch a Dibynadwyaeth
- Mae Microsoft wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl ddeddfau diogelu data perthnasol, deddfau preifatrwydd a Deddfwriaeth Harbwr Diogel, ac yn gweithredu polisi diogelu data sy’n cydymffurfio â chyfres safonau rhyngwladol ISO/IEC 27000.
- Ar ran Prifysgolion y DU, bu’r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth yn cydweithio â Microsoft i sicrhau cydymffurfiaeth â holl ddeddfwriaeth y DU yn gyffredinol a pherswadio Microsoft i gytuno trwy gytundeb i storio data yn y tymor hir o fewn yr UE, ond nid o reidrwydd yn y DU. Mae’r Brifysgol hefyd yn cadw’r hawl i archwilio’r data.
E-bost, Calendr a Chysylltiadau
Gydag Office 365 gallwch wneud y canlynol:
- Cael mynediad at eich e-byst dros y we o ble bynnag y byddwch (Sut mae dod o hyd i hynny?)
- Ychwanegu eich cyfrif Office 365 at eich trefnydd e-bost (Apple Mail, Outlook)
- Gwirio eich negeseuon e-bost ar eich ffôn symudol (Android, iOS, )
- Adfer e-byst yr ydych wedi eu dileu trwy gamgymeriad (Outlook, Webmail)
- Defnyddio rheolau i ail-ffeilio e-byst yn awtomatig (Outlook, Webmail)
- Ychwanegu apwyntiadau at eich calendr (Outlook, Webmail)
- Ychwanegu eich amserlen at eich calendr (iCal)
- Rhannu eich calendr gydag eraill (Outlook, Webmail)
- Creu calendrau newydd ychwanegol (Outlook, Webmail)
- Creu eich llyfr cyfeiriadau ar-lein eich hun (Webmail)
OneDrive
Mae pob cyfrif e-bost PA yn cael 50GB o le storio ar gyfer e-byst a ffeiliau. Enw’r gwasanaeth yw OneDrive
OneDrive:
- Mae’n storio eich ffeiliau yn y cwmwl er mwyn i chi allu cael mynediad iddynt o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
- Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
- Mae’n cynnwys yr Apiau Gwe Office: Excel, Word, PowerPoint ac OneNote er mwyn i chi allu creu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol ac argraffu’n uniongyrchol o’ch porwr
- Mae’n eich galluogi i rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio OneDrive yn ein Cwestiynau Cyffredin