Office 365 - E-bost

Mae Office 365 yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio:

  • Cleient e-bost yn y cwmwl gyda Chalendrau a Chysylltiadau yn rhan ohono - gallwch weld eich e-bost, calendr a chysylltiadau o'ch cyfrifiadur, y we, a dyfais symudol o unrhyw le yn y byd
  • OneDrive gydag apiau gwe Office (Word, Excel, PowerPoint, OneNote)
  • 1TB o le storio ar y Cwmwl ar gyfer eich negeseuon e-bost a’ch dogfennau
  • Cymorth mewn nifer o ieithoedd
  • Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Access, Publisher, Outlook, Teams a Bookings i'w gosod yn rhad ac am ddim ar eich cyfrifiadur eich hun (Sut mae gwneud hynny?)

 

Diogelwch a Dibynadwyaeth

  • Mae Microsoft wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl ddeddfau diogelu data perthnasol, deddfau preifatrwydd a Deddfwriaeth Harbwr Diogel, ac yn gweithredu polisi diogelu data sy’n cydymffurfio â chyfres safonau rhyngwladol ISO/IEC 27000.
  • Ar ran Prifysgolion y DU, bu’r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth yn cydweithio â Microsoft i sicrhau cydymffurfiaeth â holl ddeddfwriaeth y DU yn gyffredinol a pherswadio Microsoft i gytuno trwy gytundeb i storio data yn y tymor hir o fewn yr UE, ond nid o reidrwydd yn y DU. Mae’r Brifysgol hefyd yn cadw’r hawl i archwilio’r data.

E-bost, Calendr a Chysylltiadau

Gydag Office 365 gallwch wneud y canlynol:

  • Creu eich llyfr cyfeiriadau ar-lein eich hun (Webmail)

OneDrive

Mae pob cyfrif e-bost PA yn cael 50GB o le storio ar gyfer e-byst a ffeiliau. Enw’r gwasanaeth yw OneDrive

OneDrive:

  • Mae’n storio eich ffeiliau yn y cwmwl er mwyn i chi allu cael mynediad iddynt o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
  • Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
  • Mae’n cynnwys yr Apiau Gwe Office:  Excel, Word, PowerPoint ac OneNote er mwyn i chi allu creu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol ac argraffu’n uniongyrchol o’ch porwr
  • Mae’n eich galluogi i rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio OneDrive yn ein Cwestiynau Cyffredin