Treialon Adnoddau Electronig
Rydym yn gofyn am dreialon rhad ac am ddim o adnoddau ar wefannau mewn ymateb i ymholiadau gan staff a myfyrwyr. Rydym hefyd yn trefnu treialon o adnoddau newydd a allai fod yn ddefnyddiol ac o ddiddordeb yng nghyswllt addysgu, dysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gallwch gael mynediad i’r treialon ar y campws ac, yn aml, oddi ar y campws drwy VPN.
E-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk ar ôl rhoi cynnig ar unrhyw rai o’r treialon hyn, gan nodi’n fyr pam y byddai’n ddefnyddiol i chi at ddibenion addysgu, dysgu neu ymchwil.
Treialon presennol / Treialon diweddar
Er bod llawer o’r adnoddau yr ydym yn eu treialu yn rhy ddrud i ystyried tanysgrifio iddynt:
- fe allech roi cynnig arnynt hyd yn oed os yw hyn am gyfnod byr yn unig
- mae’n bosibl y bydd y cyhoeddwyr yn cynnig modelau prisio mwy ymarferol yn y dyfodol e.e. pris untro am brynu’r feddalwedd, yn hytrach nag ymrwymiad rheolaidd
- gallwn gasglu tystiolaeth o’r diddordeb sydd wedi’i fynegi mewn adnodd i gefnogi achos o blaid ei brynu, yn enwedig os yw’r adnodd yn berthnasol i fwy nag un disgyblaeth.
Cofiwch roi gwybod inni os ydych wedi dod o hyd i adnodd a’ch bod am i ni drefnu treial o’r wefan, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â’r treialon hyn.