Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN)
Mae Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN) yn creu cysylltiad diogel rhwng eich cyfrifiadur chi a rhwydwaith y Brifysgol.
Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i wefannau, systemau a chyfleusterau sydd wedi'u cyfyngu i ddefnyddwyr sydd ar rwydwaith y Brifysgol.
Mynediad i E-adnoddau
- Nid oes raid i chi osod GlobalProtect VPN i gael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws; gellir cael mynediad i’r rhan fwyaf drwy fewngofnodi i Primo a dilyn y cyngor yn y canlyniad pori ar gyfer cael mynediad oddi ar y campws
Gosod VPN
- Wrth ddefnyddio VPN rydych yn rhwym i Reoliadau a Chanllawiau'r Gwasanethau Gwybodaeth yn a chyn ei ddefnyddio dylech ddarllen ein polisi VPN
- I ddefnyddio VPN bydd arnoch angen cyfrifiadur gyda chysylltiad â’r rhyngrwyd a mynediad i’r Rhyngrwyd
- Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio VPN GlobalProtect ac mae’r gwasanaeth hwn yn gofyn am Awdurdodiad Aml-ffactor pan fyddwch yn cysylltu
- Mae cyfarwyddiadau ar gyfer gosod VPN GlobalProtect yn amrywio yn unol â’ch system weithredu:
Defnyddio VPN
Os ydych chi eisiau cael mynediad i adnoddau Prifysgol Aberystwyth dylech:
- gysylltu â’r Rhyngrwyd gan ddefnyddio eich darparwr arferol
- agor VPN GlobalProtect
- deipio eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA
- roi Cyfrinair Untro a fydd ar gael yn eich ap awdurdodi dewisol
Os ydych yn cysylltu â VPN gan ddefnyddio cyfrifiadur a reolir gan PA rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â VPN CYN mewngofnodi. Bydd storfa ffeiliau, gyriannau cyffredin ac argraffwyr yn cael eu mapio'n awtomatig wrth fewngofnodi.