Rhwydwaith Myfyrwyr
Mae gan holl Neuaddau Preswyl y Brifysgol gysylltiad Rhwydwaith drwy soced rhwydwaith gwifredig Ethernet ym mhob ystafell wely. Hwn yw’r prif gyswllt â’r rhwydwaith, yn ogystal â thrwy ein rhwydwaith diwifr (eduroam).
Mae mynediad i Rhwydwaith Myfyrwyr ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Eich Defnydd o’r Rhwydwaith
Darperir Mynediad Rhwydwaith i gefnogi dibenion academaidd y Brifysgol. Rydym yn caniatáu rhywfaint o ddefnydd anacademaidd cyfyngedig fel braint i’n defnyddwyr, ond mae’n rhaid i’r defnydd hwn gydymffurfio â:
- Pholisi Defnydd Derbyniol JANET
- Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth
- Canllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth ar ddefnyddio Rhwydwaith Prifysgol Aberystwyth
Dylech ymgyfarwyddo’ch hun â’r rhain.
Pan fyddwch wedi cysylltu â Rhwydwaith y Neuaddau bydd modd i chi ddefnyddio eich yr argraffyddion cyhoeddus a'r adnoddau gwybodaeth electronig o'ch ystafell yn y neuaddau.
Cysylltu eich cyfrifiadur â’r rhwydwaith
I gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhwydwaith bydd angen i chi gael:
- cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth
- cyfrifiadur gyda cherdyn rhwydwaith - gwifredig neu ddi-wifr
- cyfrifiadur sy'n rhedeg Windows 10 (neu fersiwn mwy diweddar), Apple macOS 12 neu uwch, Linux gyda 802.1x supplicant
- cebl rhwydwaith RJ45 (ar gyfer cysylltiadau â gwifrau - mae'r rhain ar gael i'w prynu ar y campws Gwerthiant Defnyddiau Traul
Cymorth a Chefnogaeth
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gysylltu eich cyfrifiadur â Rhwydwaith y Neuaddau gallwch roi cynnig ar ein canllawiau i ddatrys problemau – gwifredig neu ddi-wifr.