Storfa ffeiliau
Storfa Ffeiliau a Rennir
Os ydych chi angen storfa ffeiliau y gall mwy nag un aelod o staff gael mynediad iddi gallwch wneud cais am Storfa Ffeiliau a Rennir
Storfa ffeiliau a rennir:
- Mae ganddi 10GB o storfa rad ac am ddim
- Gellir ei rhannu’n hawdd â chydweithwyr yn PA drwy Myaccount.
- Bydd yn cael ei mapio’n awtomatig i chi pan fyddwch yn mewngofnodi i unrhyw gyfrifiadur Prifysgol yn unrhyw le ar y campws heb fod angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar wahân
- Gellir cael mynediad iddi oddi ar y campws pan fyddwch wedi cysylltu â rhwydwaith PA drwy VPN
- Mae’n galluogi i chi roi caniatâd 'darllen yn unig' neu fynediad darllen/ysgrifennu i’r ffeiliau
- Caiff copi wrth gefn ei gadw’n rheolaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y storfa ffeiliau a rennir, gan gynnwys sut i wneud cais i gael un, drwy fynd i’n Cwestiynau Cyffredin.
SharePoint
SharePoint:
- Storio eich ffeiliau yn y cwmwl fel y gallwch eu cyrchu o unrhyw ddyfais sydd wedi'i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
- Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
- Mae’n caniatáu i chi greu gwefannau unigol ar gyfer prosiectau a thimau penodol
- Mae’n caniatáu i chi greu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol a chyrchu gwahanol fersiynau gwahanol o’ch dogfennau
- Mae’n caniatáu i chi rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill ac yn caniatáu i nifer o ddefnyddwyr olygu dogfen ar yr un pryd, a newidiadau pawb yn cael eu cadw
- Mae’n darparu apiau i hwyluso gweithio mewn tîm a phrosiectau e.e. rhestrau tasg, wicis, byrddau trafod
Ceir rhagor o wybodaeth am SharePoint yn Cwestiynau Cyffredin
Data Ymchwil
Mae hyd at 1TB o storfa ddigidol yn ystod y prosiect ar gael, yn rhad ac am ddim, fesul prosiect.
Bydd y storfa hon yn cael ei rhoi ar weinydd canolog, wedi’i adlewyrchu i system ar wahân (mewn lleoliad arall) gyda threfniadau cyfnodol wrth gefn mewn lle. Mae’r trefniant hwn yn caniatáu amddiffyn data sydd wedi'i storio rhag methiannau cydran a system gyda'r gallu i adfer o dâp ar gyfer data a gafodd ei ddileu neu ei lygru.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau gwe'r Swyddfa Ymchwil
OneDrive
Mae pob cyfrif e-bost PA yn cael 50GB o le storio ar gyfer e-byst a ffeiliau. Enw’r gwasanaeth yw OneDrive
OneDrive:
- Mae’n storio eich ffeiliau yn y cwmwl er mwyn i chi allu cael mynediad iddynt o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r Rhyngrwyd drwy borwr gwe
- Gellir ei fapio fel gyriant ar eich cyfrifiadur
- Mae’n cynnwys yr Apiau Gwe Office: Excel, Word, PowerPoint ac OneNote er mwyn i chi allu creu a golygu dogfennau yn eich porwr, adfer y rhai yr ydych wedi’u dileu’n ddamweiniol ac argraffu’n uniongyrchol o’ch porwr
- Mae’n eich galluogi i rannu ffeiliau neu ffolderi â defnyddwyr eraill
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio OneDrive yn ein Cwestiynau Cyffredin
Storfa ffeiliau Bersonol (gyriant M)
Mae pob cyfrif defnyddiwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys 100GB o ofod ar rwydwaith y Brifysgol, y cyfeirir yn aml ato fel gyriant M, i gadw dogfennau, delweddau a ffeiliau eraill.
Y storfa ffeiliau bersonol (gyriant M):
- Mae ganddi 100GB o storfa rad ac am ddim
- Bydd yn cael ei mapio’n awtomatig i chi pan fyddwch yn mewngofnodi i unrhyw gyfrifiadur Prifysgol yn unrhyw le ar y campws heb fod angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar wahân
- Gellir cael mynediad iddi oddi ar y campws pan fyddwch wedi cysylltu â rhwydwaith PA drwy VPN
- Caiff copi wrth gefn ei gadw’n rheolaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am y storfa ffeiliau bersonol yn ein Cwestiynau Cyffredin