Cadw ac Adfer Ffeiliau

Systemau a reolir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth, ar ran y Brifysgol, yn cynnal copïau wrth gefn diogel o ffeiliau a gedwir ar systemau a reolir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth yn unol â'r polisi gwneud copïau wrth gefn ac archifo data.

Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cadw'r copïau wrth gefn hyn am y cyfnodau amser cyfyngedig canlynol: 

System Storio Cyfnod Cadw Cyfarwyddiadau adfer
Gyriannau personol (gyriant M)  90 diwrnod Gofyn i’r Gwasanaethau Gwybodaeth adfer
Gyriannau a rennir 90 diwrnod Cyfarwyddiadau adfer hunanwasanaeth
CALM 18 mis Dim adfer ar gael
Gyriant D/Bwrdd Gwaith Cyfrifiadur Cyhoeddus 7 diwrnod  

Mae ffeiliau a gedwir mewn datrysiadau trydydd parti (e.e. Panopto, Office 365) yn ddarostyngedig i'r cytundebau ar wahân, penodol canlynol.  

System Cyfnod Cadw Cyfarwyddiadau adfer
Blackboard    
Eitemau wedi’u dileu o e-bost Office 365 93 diwrnod Cyfarwyddiadau adfer hunanwasanaeth
Eitemau wedi’u dileu o OneDrive Office 365 93 diwrnod Cyfarwyddiadau adfer hunanwasanaeth
Sgyrsiau Teams Office 365    
Eitemau wedi’u dileu o SharePoint 93 diwrnod Cyfarwyddiadau adfer hunanwasanaeth
Recordiau Zoom 90 diwrnod  

Gyriannau caled corfforol 

Nid yw'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn argymell eich bod yn storio dogfennau ar yriannau caled neu yriannau USB. Os gwnewch chi, dylech sicrhau eich bod yn gwneud copïau wrth gefn yn rheolaidd ac nad ydych yn dibynnu ar un copi.

Os ydych chi’n colli gwaith neu ffeiliau cysylltiedig â’ch astudiaethau o yriant caled, gan gynnwys gyriannau caled allanol a gyriannau cof pin efallai y bydd modd adfer y rhain. Mae'n rhaid i’r gyriant caled fod yn gweithio. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i ofyn am hyn.