CLWB CERDD ABERYSTWYTH
POLISI AMDDIFFYN PLANT
Fel rhan o’i weithgareddau mae CLWB CERDD ABERYSTWYTH yn
gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy hyrwyddo cyngherddau, gweithdai a
dosbarthiadau meistr.
Mae CLWB CERDD ABERYSTWYTH wedi
ymrwymo i amddiffyn plant a phobl ifanc, ynghyd ag oedolion bregus rhag
camdriniaeth gorfforol, emosiynol a rhywiol.
Bydd pawb sydd yn gweithio i, neu ar ran, y Clwb yn gwneud hynny o fewn
canllawiau’r polisi i amddiffyn plant.
Dylai’r rhai sydd yn ymwneud â
rhedeg cyngherddau, gweithdai a dosbarthiadau meistr, sicrhau cymaint ag sydd
yn bosib,
- nad ydynt ar ben eu hunain gyda unigolyn ifanc, lle
na ellir gweld y gweithgaredd.
Dylai fod gweithiwr arall neu riant cyfrifol yn bresennol lle
bynnag mae’n bosib.
- lle mae preifatrwydd neu gyfrinachedd yn bwysig,
fod oedolyn arall yn gwybod ble mae’r gweithgaredd yn cymryd lle. Dylai’r person ifanc wybod ble mae pobl eraill ar gael .
- fod pob
person ifanc yn cael eu trin gyda pharch a thegwch.
- eu bod yn ymwybodol o iaith, tôn y llais a’r
iaith-gorfforol a ddefnyddiwyd.
- eu bod yn osgoi gemau lle mae chwarae’n troi’n
chwerw, gemau corfforol neu rai lle
gellir eu hystyried yn rhywiol
brofoclyd.
- nad ydynt yn rhan o wneud bwch dihangol o rywun, o
wawdio na gwrthod.
- eu bod yn osgoi cyffwrdd anaddas neu ymwthiol mewn
unrhyw ffordd.
- nad ydynt yn gadael i unrhyw berson ifanc eu
cynnwys nhw mewn tynnu sylw gormodol sydd yn agored yn rhywiol neu
gorfforol ei natur.
- nad ydynt yn rhoi lifft i bobl ifanc ar ben eu
hunain, heblaw am deithiau byr. Os
ydynt ar ben eu hunain, dylai’r oedolyn ofyn iddynt eistedd yng nghefn y
cerbyd.