CYFANSODDIAD
CLWB CERDD
PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH
Diwygiwyd
fersiwn 1990 gan y Pwyllgor ar 6 Rhagfyr 2001 a 10 Ionawr 2002. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol ar 2 Mai 2002.
1 Teitl
1.1 Teitl llawn swyddogol y
Clwb fydd Clwb Cerdd Prifysgol Cymru Aberystwyth.
1.2 Y teitl byr ar gyfer
defnydd cyffredinol fydd Clwb Cerdd Aberystwyth.
2 Nod a
gweithgareddau
2.1 Nod y Clwb fydd cefnogi gwerthfawrogiad
o gerddoriaeth drwy hyrwyddo cyngherddau gweithgareddau perthnasol eraill.
2.2 Bydd y Clwb yn ategu at y ddarpariaeth o
gyngherddau mawr
cerddorfaol a chorawl yn Aberystwyth trwy drefnu rhaglenni o ddatganiadau gan
ensembles llai ac unawdwyr.
2.3 Bydd y Clwb yn
cydweithio gyda’r awdurdod addysg leol ac ysgolion er mwyn hybu ei waith
addysgiadol drwy weithdai a dosbarthiadau meistr ar gyfer disgyblion o ysgolion
lleol.
2.4 Bydd y Clwb yn cydweithio gyda’r
Brifysgol a mudiadau cyhoeddus a gwirfoddol er mwyn ehangu mynediad
i’w ddatganiadau, yn enwedig i’r henoed a’r rhai dan anfantais.
2.5 Bydd y Clwb bob amser yn gweithredu ei
bolisïau o (a) gyfle cyfartal o fynediad i’w weithgareddau a (b) diogelu plant
yng nghyd-destun y gweithdai a dosbarthiadau meistr a gyfeirir atynt yn adran
2.3 uchod.
3 Aelodaeth
3.1 Bydd Aelodaeth ar agor i bawb sydd yn
cefnogi amcanion y Clwb wrth dderbyn taliad o’r tanysgrifiad blynyddol priodol.
3.2 Bydd y Pwyllgor yn penderfynu y categorïau o
aelodaeth.
3.3 Bydd hawl gan aelodau
fynychu pob gweithgaredd a hyrwyddir gan y Clwb, i gynnig bobl i wasanaethu ar
y Pwyllgor ac i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
3.4 Gall person nad
yw’n aelod fynychu unrhyw ddigwyddiad a hyrwyddir gan y Clwb drwy brynu tocyn
priodol.
4 Perthynas â Phrifysgol Cymru
Aberystwyth a mudiadau eraill.
4.1 Bydd y Pwyllgor yn
gweithio mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr a Staff Canolfan y Celfyddydau,
Aberystwyth.
4.2 Bydd y Pwyllgor yn
gweithio mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru Aberystwyth.
4.3 Bydd hawl gan y Pwyllgor i gydweithio a
thrafod telerau gyda chlybiau cerdd eraill
a mudiadau tebyg yng Nghymru a’r Gororau.
5 Rheolaeth
5.1 Cyffredinol
Bydd y dewis o artistiaid a rhaglenni,
hyrwyddiad cyffredinol y Clwb a’i weithgareddau, a denu aelodau newydd yn nwylo
Pwyllgor a etholwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol.
5.2 Cyllid
Bydd lefel y tanysgrifiad ar
gyfer bob blwyddyn academaidd yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor.
Bydd y Trysorydd Anrhydeddus
yn cadw llygad cyffredinol ar gyllideb y Clwb ac yn gyfrifol am y cyfrifon.
Bydd Canolfan y Celfyddydau
Aberystwyth, sydd yn glwm i archwiliad gan archwilwyr y Brifysgol, yn delio â
holl arian y Clwb.
5.3 Cyhoeddusrwydd
Bydd y Pwyllgor yn gyfrifol am gyhoeddusrwydd ar y cyd
â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
6 Pwyllgor
6.1 Bydd y
Pwyllgor yn cynnwys y Swyddogion ac Aelodau canlynol:
Swyddogion: |
Cadeirydd Is-Gadeirydd Ysgrifennydd
Anrhydeddus Trysorydd Anrhydeddus Swyddog Cyhoeddusrwydd Anrhydeddus |
Swyddogion yn rhinwedd eu swyddi: |
Y Cyn Gadeirydd mwyaf
diweddar Cyfarwyddwr, Canolfan y
Celfyddydau Aberystwyth Ymgynghorydd Rhaglen
Anrhydeddus Cyfarwyddwr Cerdd,
Prifysgol Cymru Aberystwyth Ymgynghorydd Cerdd
Ceredigion (neu enwebedig) Rheolwr Gwasanaeth Cerdd
Ceredigion |
Aelodau a etholwyd |
2 Aelod Staff Prifysgol
Cymru Aberystwyth 2 Aelod Ardal Aberystwyth 2 Aelod Fyfyrwyr |
6.2 Bydd y
Swyddogion yn cael eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wasanaethu
am tair blynedd ganlynol. Byddant yn gymwys i’w hail-ethol.
Bydd
Aelodau Staff Prifysgol Cymru ac Aelodau Ardal Aberystwyth yn cael eu hethol yn
y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wasanaethu am y tair blynedd ganlynol. Byddant yn gymwys i’w hail – ethol a chael eu
henwebu fel Swyddogion y Clwb.
6.3 Bydd
yr enwebedig a’r enwebwyr yn aelodau llawndaledig o’r Clwb. Anfonir enwebiadau i’r Ysgrifennydd Anrhydeddus, yn ysgrifenedig,
wedi eu harwyddo gan yr enwebedig a’r enwebwr/yr, ynghyd â chaniatâd yr enwebedig.
Os
bydd y nifer o enwebiadau yn llai na’r llefydd ar gael,
gall y Cadeirydd ofyn am enwebiadau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
6.4 Bydd gan y Pwyllgor yr hawl i enwebu a chyfethol .
6.5 Bydd swydd hefyd fel Llywydd Anrhydeddus y Clwb, i’w lenwi drwy gynigion y
Pwyllgor.
7 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
7.1 Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn
cael ei gynnal cyn gynted â phosib ar ôl cyngerdd proffesiynol olaf tymor y
Clwb.
7.2 Bydd Rhybudd o’r Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol yn cael ei roi yng nghyngerdd proffesiynol olaf
tymor y Clwb.
7.3 Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad am y tymor sydd
newydd orffen a hefyd ei gynigion am y flwyddyn i ddod.