Problem_solving |
Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddod o hyd i ac asesu ffynonellau gwreiddiol. Asesir y medr hwn trwy'r gwaith asesiedig. |
Research skills |
Bydd disgwyl i'r myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y seminarau ac ar gyfer y gwaith asesiedig. Asesir y medrau hyn trwy'r gwaith ysgrifenedig. |
Communication |
Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy'r seminarau a'r atborth yngl'n â'r gwaith ysgrifenedig. Asesir y medrau hyn. |
Improving own Learning and Performance |
Dychwelir y gwaith ysgrifenedig mewn tiwtorialau a rhoddir cyngor ar sut i wella medrau ymchwil a medrau ysgrifennu. Ni asesir y medrau hyn. |
Team work |
Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd ac yn arwain un seminar yr un. Asesir y medrau hyn fel rhan o asesiad y perfformiad yn y seminarau. |
Information Technology |
Annogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau yng nghatalogau llyfrgell a databasau ar-lein. Annogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni asesir y sgiliau hyn. |
Application of Number |
Ni ddefnyddir gwybodaeth rifyddol gan y myfyrwyr. |
Personal Development and Career planning |
Datblygir sgiliau defnyddiol gan y modiwl hwn, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, sgiliau ymchwil, asesu gwybodaeth, ac ysgrifennu mewn ffordd clir a beirniadol. |
Subject Specific Skills |
Datblygir y gallu i astudio, dadansoddi a thrafod amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol, ond gyda'r pwyslais ar ffynonellau clywedol. |