Cod y Modiwl |
GF10110 |
Teitl y Modiwl |
Y GYFUNDREFN GYFREITHIOL |
Blwyddyn Academaidd |
2006/2007 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Mrs Glenys N Williams |
Semester |
Semester 1 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 20 Hours. Yn Saesneg |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Hours. Seminarau. Yn Gymraeg |
Exemptionau Professionalau |
Dim yn angenrheidiol i Bwrpas Proffesiynol |
Canlyniadau dysgu
Dylai myfyrwyr y modiwl hwn fedru deall datblygiad y gyfundrefn gyfreithiol, a medru cynnig sylwadau ar ei nodweddion. Dylent ddeall yn arbennig y defnydd o gynsail farnwrol a'r harwyddocad, a'r berthynas rhwng cynsail ymrwymol a chyfundrefn y llysoedd. Dylai myfyrwyr fedru disgrifio `rheolau? honedig dehongli statudol a chynnig sylwadau arnynt, a gweld sut mae hyn a rol barnwyr wrth ddehongli yn gosod cynsail wrth lunio'r gyfraith. Dylai myfyrwyr ddeall yr anawsterau sydd yngl'r a sicrhau rhwyddineb cael cyfiawnder, a rol y proffesiwn cyfreithiol a'r rheithgor.
Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o'r canlynol:
- seiliau damcaniaethol y gyfraith
-
yr amgylchfyd cyfreithiol
Datblygir sgiliau dadansoddi ynghyd a dealltwriaeth o berthnasedd ac amherthnasedd.
O ran sgiliau a rhinweddau eraill, bydd myfyrwyr yn datblygu:
- sgiliau ymchwil annibynnol
- sgiliau llafar ac ysgrifennu
- darllen a dehongli gwybodaeth.
Disgrifiad cryno
Mae'r cwrs yn ystyried strwythur y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Dadansoddir yn fanwl y rhan y mae'r farnwriaeth yn ei chwarae o ran dehongli deddfwriaeth a datblygu cyfraith achosion. Ystyrir dulliau o ddatrys anghydfod trwy edrych ar y broses ymgyfreithio ffurfiol. Bydd y cwrs hefyd yn bwrw golwg dros faterion ehangach rhwyddineb cael cyfiawnder, gan gynnwys cymorth cyfreithiol. Rhoddir braslun o'r gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith oherwydd ei bwysigrwydd i astudiaethau cyfreithiol yn gyffredinol. Ystyrir patrwm trefn y llysoedd a swyddogaeth proffesiwn y gyfraith. Ni fyddai cwrs fel hwn yn gyflawn heb gyflwyno datblygiad hanesyddol y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Rhoddir hyn gyda phwyslais arbennig ar dwf y gyfraith gyffredin ac ecwiti. Amcan y cwrs yw cynnig dealltwriaeth drylwyr o amgylchfyd gwaith y gyfraith, a hefyd sylweddoli mai pwnc deinamig sy'r newid yn gyson yw'r gyfraith, ac nid corff disyflyd o reolau sydd i'r dysgu ar y cof. Bydd deall materion megis cynsail farnwrol a'r dulliau a ddefnyddir gan y farnwriaeth i ddehongli statudau yn fuddiol iawn i fyfyrwyr wrth wynebu pynciau fel y gyfraith droseddol neu gyfraith tir.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cynnig dealltwriaeth o batrwm, datblygiad hanesyddol a dulliau gweithio' r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, fel y bydd myfyrwyr yn medru asesu cyfundrefnau cyfreithiol yn feirniadol.
Cynnwys
Maes llafur:
1. Cyflwyniad i'r gyfraith fel pwnc
(i) Astudio'r gyfraith.
(ii) Hanes cryno o ddatblygiad a ffynonellau'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(iii) Gwahaniaethau a chategoriau'r gyfraith.
2. Braslun o Gyfundrefn y Llysoedd
(i) Patrwm y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Y gyfundrefn apelio sifil a throseddol.
(iii) Diwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Trefniadaeth Sifil 1997.
3. Cyfraith a Ffaith
(i) Pwysigrwydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith mewn damcaniaeth ac arfer.
(ii) Cymharu cyfundrefnau ymchwiliadol a gwrthwynebiadol.
4. Cyfraith Achosion a Chyfundrefn Cynseiliau
(i) Y rhan y mae cyfraith achosion yn ei chwarae yng nghyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr
(ii) Cymharu a chyfundrefnau cyfreithiol eraill.
(iii) Cyfundrefn cynseiliau Lloegr ar waith.
(iv) Cynseiliau yng nghyd-destun Ewrop.
5. Deddfwriaeth a Dehongliad Statudol
(i) Patrwm Mesurau.
(ii) Y broses ddeddfwriaethol.
(iii) Rheolau dehongliad statudol a chynorthwyon eraill i ddehongli.
(iv) Effaith Deddf Hawliau Dynol 1998.
6. Tribiwnlysoedd a Dulliau Eraill o Ddatrys Anghydfod
(i) Categoriau o dribiwnlysoedd.
(ii) Gwahanol ddulliau o ddatrys anghydfod.
(iii) Diwygiadau.
7. Cael Cyfiawnder.
(i) Brasolwg o'r hen gyfundrefn Cymorth Cyfreithiol.
(ii) Y darpariaethau ariannol newydd; Deddf Mynediad i Gyfiawnder 1999.
(iii) Diwygiadau parhaol yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
8. Y Proffesiwn Cyfreithiol a Swyddogaeth y Rheithgor yn y Gyfundrefn Gyfreithiol.
(i) Swyddogaethau'r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Swyddogaeth y Rheithgor.
(iii) Y Mesur Cyfiawnder Troseddol 2002 a'r berthnasedd.
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Elliott & Quinn (2004) The English Legal System
5th. Longman
Ingman (2004) The English Legal Process
10th. Oxford University Press
Slapper & Kelly (2004) The English Legal System
7th. Cavendish
** Testun Ychwanegol Atodol
Atiyah, P. S. (1995.) Law and modern society /P.S. Atiyah.
2nd. Oxford University Press 0192892673
Cownie & Bradney (2003) English Legal System
3rd. Butterworths
Holland & Webb (2003) Learning Legal Rules
5th. Blackstone
Honor e, Tony (1995.) About law :an introduction /Tony Honor e.
Oxford University Press
** Argymell Edrych Ar Hwn
Manchester, Colin. (2000.) Exploring the law :the dynamics of precedent and statutory interpretation /Colin Manchester, David Salter and Peter Moodie.
2nd. Sweet & Maxwell 0421691506
** Testun I Gyfeirio Ato
Darbyshire (2005) Eddey & Darbyshire on the English Legal System
8th. Sweet & Maxwell
Slapper & Kelly (2001) Sourcebook on the English Legal System
2nd. Cavendish
Smith Bailey & Gunn (2002) Modern English Legal System
4th. Sweet & Maxwell
Zander, Michael. (2003.) Cases and materials on the English legal system /Michael Zander.
9th. Butterworths 0406963800
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC