Cod y Modiwl | CY10210 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | LLENYDDIAETH YR UGEINFED GANRIF (IAITH GYNTAF) | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2004/2005 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Mihangel I Morgan | |||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Huw M Edwards | |||||||||||
Rhagofynion | Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch ( fel arfer, ond nid o raid) | |||||||||||
Cyd-Ofynion | I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110, CY10310, CY10410 | |||||||||||
Elfennau Anghymharus | CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr | ||||||||||
Dulliau Asesu |
|
1. Byddwch yn gyfarwydd, yn gyffredinol, â cherddi pwysicaf barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif ac â gwaith beirdd diweddar ar ddiwedd y cwrs.
2. Byddwch wedi astudio gwaith ffigurau mwyaf dylanwadol barddoniaeth y ganrif, e.e. T. H Parry-Williams, Saunders Lewis, Waldo Williams. Ond byddwch wedi trafod ambell gerdd gan feirdd llai adnabyddus sydd yn adlewyrchu digwyddiadau hanesyddol y cyfnod.
3. Byddwch yn gyfarwydd â mudiadau llenyddol y ganrif, e.e. Rhamantiaeth, Moderniaeth, Dadeni?r Gynghanedd, Ffeministiaeth.
4. Byddwch wedi astudio detholiad o gerddi yn fanwl ac ar ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu trafod testunau penodol ac/neu agweddau cyffredinol ar farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif a dechrau?r ganrif hon.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC