Cod y Modiwl | DA22110 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | MODIWL TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 2 | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys A Jones | |||||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Aled P Rowlands | |||||||||||
Cyd-Ofynion | Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun fel arfer | |||||||||||
Elfennau Anghymharus | GG22110 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 10 (bob yn ail wythnos dros y ddau semester) | ||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Y mae iddo dri nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell cyswllt clos, fe fydd yn ymdrin a phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, cynlluniwyd pob Modiwl Tiwtorial Daearyddiaeth yn ol maes llafur academaidd annibynnol. Yn Lefel 2 bydd hyn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Daearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.
GWAITH CWRS ACADEMAIDD
Bydd gwaith y cwrs academaidd ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a theori Daearyddiaeth a Daearyddiaethymarferol, yn ogystal a meysydd trafod cyfoes o fewn i'r pwnc. Yn y naill achos a'r llall, bydd y dosbarthiadau tiwtorial yndatblygu'r themau hyn o fewn i gyd-destun Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol, fel sy'n briodol i'r grwptiwtorial. Caiff y gwaith ei ddatblygu trwy gyfrwng trafodaeth a thraethodau tiwtorial, fel a nodir isod.
SGILIAU ASTUDIO
Bydd y sgiliau astudio a gynhwysir ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a'r canlynol:
Bydd y sgiliau astudio hyn yn cael eu datblygu trwy gyfrwng gwaith prosiect, fel a nodir isod.
RHAGLEN MODIWL
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.
Yn ystod yr ail semester, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar drafod theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar baratoi am astudiaeth ddaearyddol annibynnol. Pwysleisir y berthynas sydd rhwng y ddau gynllun yma. Anogir y myfyrwyr hefyd i weld arwyddocad y cyswllt sydd rhwng eu hymchwil annibynnol eu hunain a chyrsiau eraill mewn daearyddiaeth, yn enwedig felly gynnwys cyrsiau ymarferol y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Bydd llyfryn ynglyn a pharatoi astudiaeth ddaearyddol annibynnol ar gael i fyfyrwyr.
I fyfyrwyr anrhydedd sengl, bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoi traethawd hir. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Nid tiwtor y modiwl o angenrheidrwydd fydd arolygydd y traethawd a rhagwelir na fydd trafodaeth gyda'r tiwtor yn digwydd tan yn nes at ddiwedd y modiwl. Bydd yr hyn a gynhwysir yn y tri phapur cefndirol fel a ganlyn:
1. Methodoleg ymchwil. Arolwg trosfwaol o'r methodolegu a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Anogir myfyrwyr i fynegi bod yn well ganddynt un fethodoleg yn fwy na'r lleill. Gall hyn wedyn o bosibl ddarparu'r seiliau methodolegol ar gyfer gwaith traethawd.
2. Amgyffred problemau. Gofynnir i'r myfyrwyr amgyffred yn annibynnol dair problem ymchwil ar wahan wedi eu tynnu o dair cangen wahanol mewn daearyddiaeth. Gofynnir wedyn i'r myfyrwyr gyflwyno crynodeb ac arolwg o'r llenyddiaeth academaidd sydd ar gael ar y problemau penodol, ac i ddweud sut y byddent yn disgwyl i'w hastudiaethau eu hunain ehangu'r llenyddiaeth honno. Bydd angen iddynt hefyd arolygu'r ffynonellau tystiolaeth sy'n debygol o gael eu defnyddio.
3. Traethawd hir cyd-destunol. Bydd y myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd cyd-destunol cefndirol ar y pwnc a ddewiswyd ar gyfer y traethawd hir. Byddai hyn yn cynnwys ystyriaethau methodolegol ac yn ymestyn a dyfnhau'r crynodeb a'r arolwg a weithredir fel a nodir yn 2. Gellir dewis pwnc hollol newydd os nad yw'r myfyrwyr yn awyddus i ddilyn trywydd unrhyw un o'r tair problem a nodwyd yn wreiddiol. Trafodir drafft o'r traethawd hwn gyda'r arolygydd tebygol, a chytunir ar deitl. Caiff y traethawd ei farcio gan diwtor y myfyriwr/myfyrwraig yn y ffordd arferol. Rhagwelir mai drafft, wedi ei adolygu ymhellach, o'r traethawd yma fydd pennod agoriadol y traethawd hir terfynol.
Ar gyfer myfyrwyr anrhydedd cyfun na fyddant yn cyflwyno traethawd hir Daearyddiaeth yn y drydedd flwyddyn, bydd y rhan hon o'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i fethodoleg ymchwil daearyddol a gwaith ymarferol, a bydd hefyd yn gyfle i wneud ei prosiect ymchwil eu hunain yn rhan o'r modiwl tiwtorial. Y gwaith i'w asesu a fydd yn deillio o hyn fydd un papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Bydd y papur hwn yn gyfuniad o drafodaeth ar fethodoleg ac amgyffred problem, a fydd yn ei hanfod yn cynnwys yr un tir a phapurau cefndirol 1 a 2 anrhydedd sengl. Bydd myfyrwyr wedyn yn paratoi papur ymchwil o 3000 o eiriau ar y mwyaf. Bydd hyn yn wahanol i'r traethawd hir, gan y bydd yn dderbyniol i ddefnyddio deunydd cyhoeddedig yn hytrach na deunydd maes neu ddeunydd archifol. Gall yr astudiaeth fod yn genedlaethol neu hyd yn oed yn fyd-eang ei natur, ac ni fydd o angenrheidrwydd yn cynnwys astudiaeth leol. Dylai geisio 'ychwanegu gwerth' i'r llenyddiaeth gyhoeddedig sydd eisoes ar gael, a fydd yn cael ei adolygu yn yr adrannau cychwynnol.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC