Programme Specifications
Creu Perfformio
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
N/A
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Dance, Drama and Performance
(Rhagfyr 2019)
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Medi 2023
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
• Datblygu methodolegau ar gyfer dadansoddi a gwerthfawrogi ystod eang o destunau a digwyddiadau theatraidd hanesyddol a chyfoes
• Datblygu methodolegau ar gyfer dadansoddi a gwerthfawrogi’r ystod eang o ddulliau ymarferol o weithredu yn y theatr sy’n gysylltiedig â’r testunau a’r digwyddiadau hynny
• Gosod y gwahanol destunau a dulliau ymarferol hyn yn eu cyd-destun priodol o safbwynt hanesyddol, theatraidd a chymdeithasol
• Ymestyn a chymhwyso’r fethodoleg a ddatblygir wrth astudio theatr er mwyn trafod nifer o agweddau ar/ddigwyddiadau yn niwylliant cyfoes a hanesyddol Cymru
• Datblygu sgiliau arbenigol o ran perfformio neu gynllunio cynyrchiadau, a helpu myfyrwyr i fabwysiadu a chymhwyso’r rhain wrth iddynt gymryd rhan mewn prosiectau ymarferol
• Annog myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau deallusol angenrheidiol er mwyn cyflawni gwaith ymchwil annibynnol a chydweithredol
• Cyflwyno ystod eang o brofiadau a sgiliau i fyfyrwyr fel y gallant wneud penderfyniadau defnyddiol wrth ddewis gyrfa
• Datblygu ysbryd ymchwilgar ac arbrofol ymhlith y myfyrwyr gan arwain at ddysgu mwy annibynnol wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd trwy’r rhaglen
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a dirnadaeth:
• o elfennau creiddiol perfformiad theatraidd: natur y gofod, y cyflwyno a ‘r cyfranogi cynulleidfaol;
• o’r prosesau ymarferol a ddefnyddir wrth greu perfformiad;
• o ddadleuon cyfredol ynglyn â swyddogaeth gymdeithasol drama;
• o hanes traddodiadau a ymarferion theatraidd;
• o ddylanwad ymarferion theatraidd y gorffennol ar theatr y presennol;
• o ddulliau newydd a chyfredol o lwyfannu theatr;
• o ystod eang o ddramâu cyhoeddedig;
• o’u cryfderau cynhenid eu hunain fel perfformwyr ac/neu ymchwilwyr wrth iddynt ymwneud â pherfformio a drama.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos sgiliau deallusol:
• wrth ddehongli testunau dramataidd fel mynegiant o ddigwyddiad theatraidd byw;
• wrth ddatblygu’r gallu i drafod testunau, cysyniadau a pherfformiadau allweddol i lefel briodol, boed hynny ar bapur neu ar lafar;
• wrth ddehongli a gwerthuso testunau a digwyddiadau perfformiadol o wahanol safbwyntiau beirniadol;
• wrth ddadansoddi’r math o ddewisiadau a wneir pan yn cyflwyno cynhyrchiad theatraidd, ac wrth drafod y berthynas rhwng y dewisiadau hyn a’r ffynonellau testunol;
• wrth gymryd rhan greadigol mewn gwahanol fathau o weithgarwch theatraidd;
• wrth gydweithredu fel rhan o grŵp ar brosiectau gweithdy a pherfformio ac wrth weithio’n greadigol yn annibynnol;
• wrth ddethol a thynnu ar ystod eang o ffynonellau gwybodaeth pan yn cyflawni gwaith ymchwil annibynnol;
• wrth nodi a dogfennu’r prosesau a gyflwynir iddynt mewn gweithdai ac wrth greu perfformiadau.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
• Strwythuro a chyfathrebu syniadau’n effeithiol gan ddefnyddio ystod eang o dechnegau
• Datrys problemau mewn ystod eang o sefyllfaoedd theoretig ac ymarferol
• Rheoli amser yn effeithiol, ynghyd â rheoli cyllidebau, adnoddau a dyddiadau cau neilltuol
• Gweithio’n gadarnhaol a chyfrifol mewn sefyllfaoedd grŵp ac unigol
• Gweithio’n annibynnol, cyfrifol a diogel
• Rheoli pwysedd gwaith mewn ystod eang o amgylchiadau
• Darllen, dadansoddi a gwerthuso ffynonellau gwybodaeth
• Ymateb yn gadarnhaol i adborth a beirniadaeth adeiladol a bod yn sensitif wrth gynnig adborth a beirniadaeth i eraill
• Trin technoleg gwybodaeth
• Gwerthuso eu sgiliau academaidd, creadigol ac ymarferol eu hunain
• Datblygu a chymhwyso sgiliau ymchwil
BA Creu Perfformio [W470]
Academic Year: 2024/2025Single Honours scheme - available from 2022/2023
Duration (studying Full-Time): 3 yearsLast intake year: 2024/2025
Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio