Programme Specifications
Cymraeg / Astudiaethau Ffilm a Theledu
Information provided by Department of Welsh:
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Information provided by Department of Welsh:
Datganiad Meincnodi’r Gymraeg gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Dance, Drama and Performance Studies
Dance, Drama and Performance Studies
Information provided by Department of Welsh:
Medi 2023
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
September 2023
Information provided by Department of Welsh:
-
Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.
-
Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac yn gywir
-
Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.
-
Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.
-
Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.
-
Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.
-
Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.
-
Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.
-
Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.
-
Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.
Y mae’r amcanion uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
-
Cyflwyno a datblygu cyfres o sgiliau technegol, dehongliadol, beirniadol academaidd, cyfathrebol a chreadigol ym maes astudiaethau ffilm a theledu
-
Darparu cyfleon i ddadansoddi ffilm, teledu a chyfryngau fel prosesau a chynnyrch yn ogystal â datblygu a meithrin ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fel moddau o gynrychioli ac o ddeall a dehongli’r byd
-
Amlygu, dehongli a chymhwyso cynnyrch cyfryngol Cymreig o fewn ei gyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, ieithyddol a chymdeithasol
-
Cynnig cyfleon i fyfyrwyr fanteisio ar brofiadau ymarferol gan gynnwys prosiectau unigol neu mewn grwpiau penodol, a chynnig cyfleon cyfatebol ym meysydd damcaniaeth ac ymchwil annibynnol
-
Datblygu gwybodaeth a medrau i ystyried yn feirniadol safle, swyddogaeth ac effaith cyfryngau newydd a chydgyfeiriant o fewn cymdeithas gyfoes
-
Cynorthwyo’r broses o ddatblygu sgiliau deallusol personol sydd yn angenrheidiol ar gyfer ymchwil annibynnol mewn cyd-destun academaidd
-
Cynnig cyfleon i gynorthwyo’r broses o ddatblygu sgiliau deallusol rhyngbersonol a sgiliau gwaith tîm sydd yn angenrheidiol mewn prosiectau cydweithredol
-
Cynnig cyfuniadau ar agweddau damcaniaethol ac ymarferol wrth astudio ffilm a theledu
-
Paratoi llwybrau ar gyfer astudio pellach yn y meysydd hyn.
Information provided by Department of Welsh:
Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Information provided by Department of Welsh:
-
A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg.
-
A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol.
-
A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith.
-
A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar.
-
A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd.
-
A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.
-
A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a’r teithi a’r nodweddion a berthyn iddynt.
-
A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd cysyniadau beirniadol.
-
A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.
-
A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.
-
A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.
-
A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.
Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.
Dull asesu:
Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a dirnadaeth:
-
o’r cysyniadau a’r damcaniaethau allweddol wrth astudio a dadansoddi cynnyrch y diwydiant ffilm, teledu a’r cyfryngau
-
o’r strwythurau a’r prosesau sydd ynghlwm â’r cyfryw ddiwydiannau
-
o swyddogaeth a chyfraniad y cyfryngau mewn cyd-destun diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol
-
o agweddau ar hanes a datblygiad y cyfryngau, yn benodol yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac, yn achlysurol, y tu hwnt i hynny
-
o gynnyrch y cyfryngau mewn perthynas ag arddull, genre, cod ac arfer, wrth greu ac wrth ddefnyddio’r cynnyrch hwnnw
-
o’r disgyrsiau a gaiff eu creu a’u cynnal gan a thrwy’r cyfryngau
-
o brosesau, arferion, rheolau a phroblemau a geir wrth greu cynnyrch cyfryngol creadigol, mewn grŵp a/neu fesul unigolyn.
Information provided by Department of Welsh:
-
B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
-
B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.
-
B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
-
B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth.
-
B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.
-
B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â genres llenyddol arbennig.
-
B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.
Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.
Dull asesu:
Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos sgiliau deallusol:
-
Wrth archwilio ac astudio ystod o sefyllfaoedd ac o ffurfiau ar ffilm a theledu ac adnabod a dehongli eu hystyron a’u harwyddocâd, gan ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o ‘ystyr’ a’r modd y’i creir yn y cyd-destun clyweledol
-
Wrth geisio canfod a chyflwyno ystod eang o ffynonellau priodol wrth ymchwilio a chyflwyno dadleuon ynghyd ag ystyried a thafoli gwybodaeth a honiadau o wybodaeth a gyflwynir yn y meysydd astudio o safbwynt eu statws, eu dilyniant, eu gwerth a’u gwreiddiau
-
Wrth gymhwyso geirfa feirniadol ac arbenigol i’r astudiaeth o’r meysydd hyn
-
Wrth gymhwyso dealltwriaeth o un cyd-destun i gyd-destun arall, boed o un cyfrwng i’r llall neu o un cyfnod hanesyddol, diwylliannol neu wleidyddol i’r llall
-
Wrth ffurfio, datblygu a gweithredu cynlluniau i greu cynyrchiadau ymarferol fel unigolion neu mewn grŵp.
Information provided by Department of Welsh:
-
D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.
-
D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.
-
D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.
-
D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.
-
D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.
-
D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.
-
D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.
-
D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.
-
D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.
-
D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.
Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.
Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.
Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.
Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
-
Meithrin sgiliau berniadol a dadansoddol
-
Datblygu syniadau, ffurfio dadleuon a’u cyflwyno ar lafar, yn ysgrifenedig a/neu yn glyweledol
-
Casglu gwybodaeth, ymchwilio, dethol a threfnu deunydd deallusol a chreadigol
-
Gweithredu a chwblhau prosiectau fesul unigolyn ac mewn grŵp
-
Arddangos sgiliau cyfathrebol ar lafar, yn ysgrifenedig a/neu yn glyweledol
-
Cynllunio a chyflawni prosiectau o fewn cyfyngiadau amser ac adnoddau
-
Adnabod a datrys problemau ymarferol a deallusol mewn cyd-destunau niferus ac amrywiol
-
Ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth adeiladol ac arddangos y gallu i fod yn hunan-feirniadol
-
Gallu defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth yn y cyd-destunau priodol
-
Datblygu a chymhwyso sgiliau ymchwil
BA Cymraeg / Astudiaethau Ffilm a Theledu [QWM6]
Academic Year: 2024/2025Joint Honours scheme - available from 2000/2001
Duration (studying Full-Time): 3 yearsLast intake year: 2022/2023