Programme Specifications

Daearyddiaeth


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Mae rhai modiwlau yn cynnig profiadau dysgu yn y gweithle, er enghraifft, DA21210 Profiad Gwaith Daearyddiaeth. Rydym hefyd yn annog myfyrwyr i gyfranogi yn y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith a chynllun Go Wales, ac yn eu hysbysu am ystod eang o gyfleoedd o ran cyflogaeth.

3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Science

5 : Programme title
Daearyddiaeth

6 : UCAS code
F801

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Datganiad Meincnodi Daearyddiaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

8 : Date of publication


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Medi 2023

9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Mae Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn ymdrin â natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a ffisegol ar raddfa fyd-eang ac ar raddfa leol. Mae’r cynllun gradd BSc Daearyddiaeth yn rhoi pwyslais ar holl agweddau Daearyddiaeth, ac mae’n cynnig dealltwriaeth ac esboniad o: (1) y prosesau sy’n strwythuro’r byd dynol a byd natur, (2) sut, a pham y newidiodd y bydoedd hyn yn y gorffennol, yn ogystal â sut a pham maen nhw’n newid ar hyn o bryd, ac yn mynd i barhau i newid yn y dyfodol, (3) y rhyngweithredu rhwng y byd dynol a byd natur. Drwy eu dewis o fodiwlau, gall myfyrwyr gyfuno elfennau o Ddaearyddiaeth Ffisegol a Dynol, neu ddatblygu llwybrau sy’n canolbwyntio yn ddyfnach ar naill ai Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol.

Amcanion y cynllun gradd BSc Daearyddiaeth yw:

• Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o Ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a’i hathroniaeth

• Cynnig rhaglen strwythuredig sy’n academaidd drwyadl, ac sy’n bodloni’r gofynion meincnodi cyfredol a rhai’r dyfodol

• Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol detholedig drwy fodiwlau dewisol yn Lefel 3, ym meysydd arbenigedd yr Adran

• Meithrin graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol ym maes daearyddiaeth.

• Datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a dadansoddol, a dadlau’n rhesymegol yn Gymraeg a Saesneg

• Datblygu medrau mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, sgiliau cyfrifiadurol, graffigedd, gosod a datrys problemau, ysgrifennu adroddiadau, sgiliau labordy a gwaith maes

• Hybu astudio a meddwl annibynnol, meddyliau chwilfrydig, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o’r safon uchaf.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Ar ôl gorffen y cynllun gradd BSc Daearyddiaeth bydd myfyrwyr:

• yn gallu gwerthuso syniadau, cysyniadau a dulliau daearyddol yn feirniadol, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws y pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o fewn canghennau penodol o Ddaearyddiaeth

• yn gallu cyflawni gwaith ymchwil annibynnol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau cartograffig, cyfrifiannol, llenyddol a thechnegol

• wedi datblygu ystod o sgiliau daearyddol, a’r gallu i’w cymhwyso i amrywiaeth o faterion daearyddol

• yn gallu gweld bod eu profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu drwy fod yn gysylltiedig â gwaith ymchwil

• yn gallu gwerthuso’u perfformiad eu hunain mewn ystod o gyd-destunau addysgol ac o dan wahanol ddulliau asesu

• yn gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm, gydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o’r cyfraniad y mae ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu maes wedi ei wneud i reolaeth a pholisi amgylcheddol.

• yn meddu ar y sgiliau a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol, neu gychwyn ar ymchwil ac astudiaethau uwchraddedig.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:

Noder: Dengys manylion cyflawni’r canlyniadau dysgu a restrir isod yn ein portffolio cyfredol o fodiwlau ar y Map Cwricwlwm atodedig.



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Ar ôl gorffen y cwrs gradd, bydd myfyrwyr yn gallu:

A1 Disgrifio’r berthynas rhwng gweithgarwch dynol a’r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys effaith gweithgarwch dynol ar ffurf y dirwedd ac ansawdd yr amgylchedd.

A2 Disgrifio ac esbonio’r amrywiadau gofodol mewn ffenomenau dynol a chyfansoddiad amgylcheddau ffisegol y Ddaear ar wahanol raddfeydd gofodol ac amserol.

A3 Esbonio’r amryw ffyrdd y caiff llefydd, tirweddau ac amgylcheddau eu ffurfio a’u hail-greu’n barhaus drwy amrywiaeth o brosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol, mewn ystod o gyd-destunau, o’r lleol i’r byd-eang.

A4 Disgrifio’r prosesau ffisegol a chemegol sy’n gyfrifol am ffurfio amgylcheddau corfforol y Ddaear.

A5 Gweld y berthynas rhwng prosesau a ffurf yn y byd dynol a ffisegol.

A6 Gwerthuso’n feirniadol y cyfraniad y mae astudiaethau daearyddol yn ei wneud i’r pryderon sydd, ar sail gwybodaeth, am y Ddaear a’i phobl, yn nhermau academaidd, ymarferol a pholisi.

A7 Gwerthuso datblygiad Daearyddiaeth fel disgyblaeth arbennig, a thrafod y berthynas rhwng Daearyddiaeth a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau ffisegol a naturiol, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol.

A8 Cyfosod cyfraniadau Daearyddiaeth Dynol a Ffisegol i drafod materion rheoli amgylcheddol.

A9 Bod yn ymwybodol o ystod a natur y ffynonellau o ddata sydd ar gael i’r daearyddwr a defnyddio a gwerthuso’r ystod sylweddol o strategaethau arsylwi, cofnodi a dadansoddi a ddefnyddir mewn ymchwil maes daearyddol ac i ddadansoddi data.

A10 Disgrifio gwahanol ffyrdd o gynrychioli’r amgylchedd dynol a ffisegol – yn cynnwys testunau, mapiau, hafaliadau mathemategol, hafaliadau cemegol, delweddau gweledol, a modelau (yn cynnwys caledwedd, modelau rhifiadol a chysyniadol).

A11 Gwerthuso yn feirniadol yr ystod o ddulliau athronyddol a methodolegol a ddefnyddir gan ddaearyddwyr wrth ddadansoddi a dehongli amgylcheddau dynol a ffisegol y Ddaear.

A12 Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ‘ffyrdd o weld’ sy’n benodol i ddaearyddiaeth eu cynhyrchu, eu damcaniaethu a’u dehongli, yn cynnwys cynrychioli llefydd drwy ddisgyrsiau academaidd, polisi a lleyg.

Dulliau dysgu a ddefnyddir i alluogi myfyrwyr i gyflawni a dangos canlyniadau:

Dysgu

Ar lefel 1, hyrwyddir datblygiad myfyriwr tuag at ganlyniadau dysgu A1–A8 drwy’r rhaglen modiwl BSc Daearyddiaeth craidd, a ddysgir drwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac a ategir gan ddosbarthiadau maes, astudio annibynnol a darllen y myfyriwr. Trafodir materion yn ymwneud â chanlyniadau dysgu A1-A8 hefyd drwy un modiwl craidd mewn darlithoedd ac mewn tiwtorialau, a ategir gan ymarferion a darllen y myfyrwyr. Hyrwyddir datblygiad myfyrwyr tuag at ganlyniadau dysgu A9-A12 o ran yr elfen ymarferol drwy gyfuniad o ddosbarthiadau ymarferol/ labordy a dosbarthiadau maes ac aseiniadau cysylltiedig ar sail gwaith ymarferol.

Ar lefelau 2 a 3, mae’r rhaglen addysgu’n cynnwys pedair elfen. (i) Mae Modiwlau Gwybodaeth a Dealltwriaeth Graidd yn Lefel 2 yn datblygu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau A1-A6 trwy ddarlithoedd a ategir gan astudio annibynnol a darllen y myfyrwyr. (ii) Mae Modiwlau Sgiliau Craidd yn Lefel 2 yn hyrwyddo canlyniadau dysgu A7-A12 trwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes, ymarferion gwaith maes wedi’u hategu mewn amrywiol ffyrdd, aseiniadau grŵp neu unigol a darllen annibynnol fel y bo’n briodol. Mae dosbarthiadau maes hefyd yn trafod materion sy’n gysylltiedig ag A1 ac A12, tra gall ymchwil a wneir gan fyfyrwyr tuag at eu Traethawd Estynedig gyfrannu tuag at ddatblygu gwybodaeth sy’n berthnasol i rai neu bob un o ganlyniadau A1-A12. (iii) Mae modiwlau dewisol a gymerir ar Lefel 2 a Lefel 3, ac a gyflwynir drwy ddarlithoedd a seminarau a ategir gan astudio a darllen personol gan y myfyriwr, yn cyfrannu tuag at ddatblygu myfyriwr tuag at rai neu bob un o’r canlyniadau A1-A12. (iv) Mae sesiynau tiwtorial grŵp bach yn Lefel 2 a Lefel 3 fel ei gilydd yn trafod themâu sy’n gysylltiedig â chanlyniadau A1-A12.

Asesu

Ar Lefel 1, asesir galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau dysgu A1–A12 drwy draethodau arholiadau nas gwelir ymlaen llaw, arholiadau atebion byr nas gwelir ymlaen llaw, aseiniadau gwaith cwrs ar sail ymarferion ac aseiniadau traethawd a gwaith prosiect sesiynau tiwtorial. Asesir galluoedd myfyrwyr, sy’n ymwneud â chanlyniadau A9-A12, drwy ymarferion ymarferol, labordy a maes.

Ar Lefelau 2 a 3, gall galluoedd myfyrwyr sy’n ymwneud â chanlyniadau dysgu A1 i A12 gael eu hasesu mewn ffyrdd amrywiol, fel ag sy’n briodol, drwy aseiniadau sesiynau tiwtorial, y prosiect Traethawd Estynedig, aseiniadau gwaith maes, cyflwyniadau llafar, traethodau gwaith cwrs, traethodau prosiect, cyflwyniadau seminar, a thraethodau arholiad a welir ymlaen llaw, ac nas gwelir ymlaen llaw, a thraethodau arholiadau a wneir yn eu hamser eu hunain.



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

10.2.1 Sgiliau deallusol

Ar ôl gorffen y cynllun gradd, bydd myfyrwyr yn gallu:

B1 Haniaethu a chyfuno gwybodaeth

B2 Beirniadu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol

B3 Dehongli data a thestunau yn feirniadol

B4 Gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau

B5 Asesu rhinweddau theorïau, esboniadau a pholisïau cyferbyniol

B6 Datblygu dadl resymegol

B7 Dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau

B8 Ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol wrth ysgrifennu am, adolygu a thrafod themâu daearyddol.

B9 Cyfosod testunau academaidd yn briodol ac yn feirniadol, a dyfynnu a chyfeirnodi ffynonellau yn y dull cywir

B10 Cymryd cyfrifoldeb am eu dysg eu hunain gan adolygu a myfyrio ar y dysg hwnnw

Dysgu a dulliau asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos canlyniadau:

Dysgu

Hyrwyddir datblygiad myfyrwyr tuag at ganlyniadau B1-B10 yn bennaf drwy sesiynau tiwtorial grwpiau bach (Lefelau 1-3), dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes (Lefelau 1-3), a thiwtora un i un ar gyfer y prosiect Traethawd estynedig (Lefel 3). Ategir y dysgu drwy sesiynau tiwtorial, ymarferion ymarferol ac ymarferion maes. Dangosir y sgiliau hyn yn cael eu cymhwyso yng nghyd-destun meysydd penodol o ymholi daearyddol drwy ddarlithoedd ar gyfer modiwlau craidd a dewisol yn Lefelau 1, 2 a 3.

Er enghraifft, mae sgiliau haniaethu a chyfuno gwybodaeth, barnu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol, dehongli data yn feirniadol, gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau, asesu rhinweddau theorïau ac esboniadau cyferbyniol, datblygu dadl resymegol a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau, oll yn bethau y gellid eu datblygu fel rhan o’r prosiectau a gyflawnir yn ystod cwrs maes Lefel 2.

Asesu

Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau B1-B10 yn ganolog i feini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys aseiniadau tiwtorial, traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, cyflwyniadau seminar a llafar, prosiect ymchwil annibynnol y Traethawd Estynedig a thraethodau arholiadau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau amser rhydd.

10.2.2 Sgiliau ymarferol proffesiynol / Sgiliau sy’n benodol i ddisgyblaethau

Ar ôl iddynt orffen y cynllun gradd bydd myfyrwyr yn gallu dangos medrau yn y sgiliau daearyddol proffesiynol canlynol:

C1 Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiad terfynol.

C2 Cyflawni gwaith maes effeithiol (gan roi sylw priodol i ddiogelwch ac asesu risg).

C3 Cyflwyno data daearyddol yn effeithiol drwy ddefnyddio cyfryngau priodol gan gynnwys mapiau, diagramau, ystadegau, modelau a rhyddiaith academaidd.

C4 Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o’r byd dynol a/neu’r byd ffisegol, gan gynnwys samplu maes, arolygon gyda holiaduron, cyfweliadau a thechnegau meintiol.

C5 Cyfuno a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth ddaearyddol.

C6 Dyfeisio a defnyddio amrywiaeth o ddulliau technegol a dulliau yn y labordy i gasglu a dadansoddi data amgylcheddol.

C7 Dadansoddi goblygiadau daearyddol digwyddiadau cyfoes, penderfyniadau polisi, a phrosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.

C8 Cwestiynu a dehongli’r broses o gynhyrchu a chyflwyno dogfennau polisi, cyfryngau print a darlledu, deunydd tirwedd a thestunol.

C9 Gweld y materion moesol a moesegol sydd ynghlwm wrth drafodaethau ac ymholiadau daearegol.

Dulliau dysgu ac asesu a ddefnyddir i alluogi canlyniadau i gael eu cyflawni a’u dangos:

Dysgu

Caiff sgiliau disgyblaeth-benodol proffesiynol ac ymarferol eu dysgu mewn nifer o gyd-destunau. Mae dosbarthiadau maes yn Lefelau 1 a 2 yn cyfrannu tuag at ddatblygu sgiliau C1-C9, ac ategir dysgu gan brofiad ymarferol o ymarferion maes a phrosiectau mewn grwpiau ac yn unigol. Mae dosbarthiadau ymarferol yn Lefelau 1 a 2 yn cyfrannu tuag at ddatblygu sgiliau C3, C4, C5, C7-C9, wedi’u hategu gan ymarferion ymarferol mewn grwpiau ac yn unigol. Mae sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach yn Lefelau 1, 2 a 3 yn trafod materion sy’n ymwneud â chanlyniadau C5-C9; tra bydd canlyniadau C7-C9 hefyd yn cael eu trafod yn Lefel 1 drwy ddarlithoedd ar fodiwl craidd ac aseiniadau cysylltiedig ar sail ymarferion. Yn olaf, gall ymchwil annibynnol y myfyriwr ar gyfer y Traethawd estynedig, a’r tiwtora un i un cysylltiedig, gyfrannu tuag at ddatblygiad myfyrwyr tuag at unrhyw rai, neu bob un, o C1 i C7.

Ar ben hyn, dangosir sut mae’r sgiliau hyn yn cael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun meysydd penodol o ymchwil daearyddol drwy ddarlithoedd ar gyfer modiwlau craidd a dewisol yn Lefelau 1, 2 a 3.

Asesu

Asesir y sgiliau uchod drwy amrywiaeth o ddulliau ar bob un o dair lefel y cynllun gradd. Mae aseiniadau sy’n gofyn am adroddiadau ar ymarferion a gweithgareddau gwaith maes – a all gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, llyfrau nodiadau a dyddiaduron maes, a chyflwyniadau llafar – yn asesu galluoedd myfyrwyr yn sgiliau C1-C9. Yn yr un modd, gall y prosiect Traethawd estynedig, yn dibynnu ar y pwnc, asesu unrhyw un o ganlyniadau C1-C9, neu bob un ohonynt. Mae ymarferion grŵp ac unigol sy’n ymwneud â dosbarthiadau ymarferol yn asesu sgiliau C3-C5 ac C9. Gall aseiniadau tiwtorial, traethodau gwaith cwrs, traethodau prosiect a thraethodau arholiadau oll asesu C3-C9 fel sy’n briodol yng nghyd-destun yr asesiad.



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

10.3 Sgiliau Trosglwyddadwy/ Allweddol

Gwybodaeth wedi’i darparu gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bydd y myfyriwr yn gallu cymryd cyfrifoldeb amdanynt eu hunain a’u gwaith. Bydd y myfyriwr yn medru dangos gallu yn y sgiliau allweddol canlynol sy’n drosglwyddadwy i gyd-destun y tu allan i academia:

D1 Gweithio’n annibynnol

D2 Gweithio fel rhan o dîm

D3 Parchu safbwyntiau, credoau, barn a gwerthoedd eraill

D4 Gwrando ar siaradwyr eraill, a thrafod â hwy

D5 Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys trafodaethau a dadleuon grŵp a chyflwyniadau ffurfiol.

D6 Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffyrdd.

D7 Defnyddio technolegau gwybodaeth i brosesu, cadw, a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys taenlenni, cronfeydd data, prosesu geiriau, e-bost a’r we fyd-eang.

D8 Darganfod a chael gafael ar wybodaeth, a’i threfnu a’i thrin o ffynonellau electronig confensiynol ac electronig, gan gynnwys llyfrgelloedd, CD-ROMau, adnoddau cyfrifiadurol ar-lein a’r we fyd-eang.

D9 Rheoli amser a rheoli trefniadau eu gwaith eu hun.

D10 Ymchwilio i faterion a datrys problemau

D11 Addasu i newid

D12 Gallu darllen, deall a dehongli ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig.

D13 Sgiliau arsylwi.

D14 Coladu, prosesu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol.

D15 Nodi llwybrau gyrfa priodol a datblygu’r gallu i gystadlu’n effeithiol am gyfleoedd i gael swyddi.

Dulliau dysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos canlyniadau:

Dysgu

Nod y rhaglen yw hyrwyddo, datblygu a meithrin ymwybyddiaeth a medrau myfyrwyr yn y sgiliau trosglwyddadwy allweddol hyn – sgiliau y bydd myfyrwyr eisoes yn eu medru i raddau mwy neu lai. Mae rhai o’r sgiliau hyn yn rhan annatod o weithgareddau dysgu ar draws y rhaglen (D1, D4, a D7-D12). Datblygir eraill drwy fodiwlau a gweithgareddau dysgu penodol, gan gynnwys gwaith maes (D2, D10 a D13), dosbarthiadau ac ymarferion ymarferol/ labordy (D14), cyflwyniadau llafar (D5). Yn fwyaf arwyddocaol, mae gan y sesiynau tiwtorial grwpiau bach mewn maes llafur cynyddol o Lefel 1 i Lefel 3 sy’n ymdrin â nifer o’r sgiliau hyn, yn cynnwys D1-D12 a D15.

Asesu

Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â nifer o’r canlyniadau uchod (D6-D10 a D12) yn ganolog i’r meini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys aseiniadau tiwtorial, traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, prosiect ymchwil annibynnol y Traethawd estynedig a thraethodau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau arholiadau amser rhydd. Ar ben hynny, asesir nifer o’r sgiliau uchod yn benodol ar wahanol bwyntiau yn ystod y rhaglen trwy ystod o ddulliau, gan gynnwys prosiect y Traethawd estynedig (D1), adroddiadau ar y prosiect gwaith maes grŵp (D2), cyflwyniad llafar ar y prosiect gwaith maes (D5), aseiniadau sgiliau astudio tiwtorial (D7, D8), ymarferion gwaith maes (D13), ac ymarferion ymarferol (D14).



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BSC Daearyddiaeth [F801]

Academic Year: 2024/2025Single Honours scheme - available from 2011/2012

Duration (studying Full-Time): 3 years

Part 1 Rules

Year 1 Core (120 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA10000

Byw mewn Byd Peryglus

DA10300

Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data

DA10520

Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol

DA11520

Sut i Greu Planed

Semester 2
DA10020

Byw mewn Byd Peryglus

DA10320

Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data

GS10520

Earth Surface Environments

GS14220

Place and Identity

Part 2 Rules

Year 2 Core (70 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA20510

Ymchwilio i bobl a lle

DA25400

Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

GS22010

Physical Analysis of Natural Materials

GS23810

Quantitative Data Analysis

Semester 2
DA25420

Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

GS20410

Concepts for Geographers

GS23710

Geographical Information Systems

Year 2 Options

Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 50 credyd o'r modiwlau isod:

Semester 1
DA20820

Astudio Cymru Gyfoes

DA22510

Geomorffoleg Afonol

GS23510

The Frozen Planet

Semester 2
DA23020

Lleoli Gwleidyddiaeth

GS21910

Reconstructing Past Environments

GS28910

Geographical Perspectives on the Sustainable Society

Final Year Core (40 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA34000

Traethawd Estynedig Daearyddiaeth

Semester 2
DA34040

Traethawd Estynedig Daearyddiaeth

Final Year Options

Gall myfyrwyr ddewis 80 credyd o'r rhestr isod. Gall hyd at 20 credyd fod o fodiwlau addas a gynigir yn ADGD neu yn y Brifysgol.

Semester 1
DA32220

Cenedlaetholdeb a chymdeithas

GS32020

Monitoring our Planet's Health from Space

GS33320

Everyday Social Worlds

GS33420

Glaciers and Ice Sheets

GS36220

Modern British Landscapes

GS37520

Urban Risk and Environmental Resilience

Semester 2
DA31720

Rheoli'r Amgylchedd Gymreig

GS30020

The psychosocial century

GS30420

Volcanic Activity: Hazards and Environmental Change

GS31120

Applied Environmental Management

GS36820

The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives

GS37920

Memory Cultures: heritage, identity and power


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.