Module Information

Module Identifier
VS10100
Module Title
Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth
Academic Year
2024/2025
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Adroddiad adfyfyrio  1500 o eiriau  30%
Semester Assessment Cyflwyniad llafar  10 Munud  20%
Semester Exam 1.5 Hours   Arholiad  1.5 Awr  50%
Supplementary Assessment Cyflwyniad llafar  10 Munud  20%
Supplementary Assessment Adroddiad adfyfyrio  1500 o eiriau  30%
Supplementary Exam 1.5 Hours   Arholiad  1.5 Awr  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Deall sut y gallai plethu gwybodaeth glinigol a sgiliau cyfathrebu arwain at ymgynghoriadau mwy effeithlon ac effeithiol.

Edrych ar adeiladwaith y proffesiwn Milfeddygol yng ngwledydd Prydain, a disgrifio'r gwahanol lwybrau gyrfaol i filfeddygon, gan ystyried y wybodaeth, y sgiliau, y doniau a'r agweddau sydd eu hangen i'r swyddi hyn.

Dangos dealltwriaeth am ystyr proffesiynoldeb a'r cyfrifoldebau i gleientiaid, cleifion a'r gymdeithas ehangach sy'n deillio o hynny.

Dangos dealltwriaeth o'r ystod o faterion y gallai fod angen i raddedigion newydd eu hwynebu, gan gynnwys rheoli dyled, cyfreitha, materion cyflogaeth a lles cymdeithasol a meddyliol.

Chwilio am dystiolaeth ddilys, a'i hasesu a'i defnyddio wrth wneud penderfyniadau clinigol.

Dangos gwybodaeth am ddamcaniaethau moesegol a goblygiadau moesegol o fewn y maes milfeddygol o hynny o dan amodau arholiadau.

Brief description

Mae Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth yn rhedeg drwy Flwyddyn 1 ac yn cyflwyno sawl thema bwysig gan gynnwys moeseg, sgiliau cyfathrebu, sut i gloriannu gwerth tystiolaeth ac yn olaf y cyfleoedd a'r heriau sy'n codi o yrfaoedd mewn milfeddygaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar filfeddygon yng Nghymru.

Content

Mae datblygu sgiliau proffesiynol, agwedd broffesiynol a dealltwriaeth am werth meddygaeth ar sail tystiolaeth yn rhan hanfodol o'ch addysg, yn enwedig i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i yrfa fel Milfeddyg. Mae'r modiwl hwn wedi'i lunio fel y gallwch ddysgu a mireinio'r ystod o sgiliau a fydd yn hanfodol i chi allu llwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol, a'i mwynhau. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys rhai a fydd i'w gweld yn amlwg, megis sgiliau clinigol technegol, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu (gan gynnwys sgiliau ymgynghori a chyflwyno), gweithio mewn tîm, cloriannu gwerth tystiolaeth a rhesymu clinigol, rhesymu moesegol ac agweddau proffesiynol. Yn fwy eang, bydd y modiwl hefyd yn ymdrin â meysydd fel rheoli busnes, a'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddysgwr cyfrifol ac effeithiol y tu hwnt i'r Brifysgol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau. Nid asesir yr agwedd hon.
Co-ordinating with others Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon.
Creative Problem Solving Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol a gwaith cwrs yn golygu datrys problemau ac arholiad.
Critical and analytical thinking Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn y gwaith cwrs.
Digital capability Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at yr arholiad a'r gwaith cwrs.
Professional communication Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn y gwaith cwrs a'r arholiad, a chyfathrebu ar lafar yn y cyflwyniad llafar, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth ar hyn.
Real world sense Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Bydd agweddau ar hyn yn cael eu dysgu a'u hasesu.
Subject Specific Skills Yn ystod y modiwl fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol a biolegol; ac asesir hynny yn yr arholiad a'r gwaith cwrs.

Notes

This module is at CQFW Level 4