Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad aml-ddewis 1.5 Awr | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad priddoedd 1.5 Awr | 20% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad aml-ddewis 1.5 Awr | 40% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad priddoedd 1.5 Awr | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Rheolaeth Glaswelltir 1500 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Cnydau 2000 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad Rheolaeth Glaswelltir 1500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad Cnydau 2000 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
Adnabod dylanwad gwaith rheoli a’r amgylchedd ar gyfansoddiad porfa a chynllunio rhaglen rheoli porfa at ddefnydd amrywiol.
Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.
Disgrifiad cryno
Trwy raglen integredig o ddarlithoedd, sesiynau arddangos, sesiynau ymarferol ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn cael gwybod am union ofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawn, yn ogystal â'r ffactorau sy'n sail i ystod o strategaethau cynhyrchu cnwd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, gan roi pwyslais ar sut mae'r rhain yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bridd. Ar ôl i'r pethau elfennol hyn gael eu cyflwyno, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar eu goblygiadau o ran rheoli tir a gwarchod yr amgylchedd.
Nod
2. Adnabod dylanwad gwaith rheoli a’r amgylchedd ar gyfansoddiad porfa a chynllunio rhaglen rheoli porfa at ddefnydd amrywiol.
3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.
Cynnwys
Cyflwynir gwyddor pridd, gan ganolbwyntio ar adeiladwaith, gweadedd a lleithder pridd. Mae'n archwilio cylchdroi a rheoli maetholion ar gyfer iechyd pridd.
Trafodir pwysigrwydd glaswelltiroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhywogaethau porfa a mathau o lystyfiant. Bydd y gweithdai ar gymysgeddau hadau a rhaglenni maetholion yn gysylltiedig â’r adrannau am gydrannau pridd.
Bydd treialon maes yn sail i'r adran ar gnydau. Nod y darlithoedd, y gweithdai a'r dosbarthiadau ymarferol yw dilyn cylch bywyd y cnwd ac arwain penderfyniadau ar reoli cnydau. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: cynnyrch, dewis mathau, gwarchod cnydau a chynllunio maetholion.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth reoli eu plotiau cnydau. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd holl aseiniadau'r modiwl hwn yn cynnwys adnabod problemau wedi eu cysylltu â thyfiant planhigion neu rheolaeth priddoedd yn y maes. Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr greu strategaeth rheolaeth i ymateb i hyn. |
Gallu digidol | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyfradd hau, poblogaeth planhigion a chynnyrch y planhigyn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4