Module Information

Cod y Modiwl
NY10400
Teitl y Modiwl
Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Co-Requisite
NU10120, NU10220 neu NU10320 Modules to be completed in conjunction with NY10460
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Practical exam  Students must pass each element detailed in the Practice Assessment Document for Part 1 to progress to Part 2  100%
Asesiad Semester 800 Awr   Continuous clinical assessment and In-point Assessment (1st)  Asesiad clinigol parhaus (sy’n adlewyrchu’r maes ymarfer a ddewisir gan y myfyriwr)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio’r priodoleddau sy’n gysylltiedig â bod yn weithiwr proffesiynol atebol

Defnyddio strategaethau i ddarparu dulliau penodol o hybu iechyd

Nodi anghenion sylfaenol defnyddwyr gwasanaethau a chynllunio gofal nyrsio cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Darparu gofal nyrsio diogel, tosturiol ac effeithiol gan gloriannu effeithiolrwydd yn erbyn canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau unigol

Gweithredu'r gwaith o ddarparu gofal nyrsio, gan weithio'n effeithiol gyda thimau i gydlynu gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau unigol

Disgrifio’r strategaethau cyfredol a ddefnyddir i fonitro diogelwch ac ansawdd gofal

Disgrifio ac adnabod y budd o addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechyd

Disgrifiad cryno

23. DISGRIFIAD CRYNO:
Mae Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a), Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y Deyrnas Unedig yn nodi bod angen i nyrsys cofrestredig fod â’r hyder a’r gallu i feddwl yn feirniadol, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau, a darparu gofal nyrsio uniongyrchol arbenigol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ym mhob lleoliad gofal iechyd.
Rhaid i nyrsys cofrestredig allu diwallu anghenion gofal holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, pobl maent yn dod ar eu traws wrth ymarfer, a all fod ar unrhyw gam mewn bywyd ac a all fod ag amrywiaeth o heriau iechyd meddyliol, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol.

Hefyd, rhaid i nyrsys cofrestredig “allu dangos mwy o wybodaeth a’r sgiliau ychwanegol, mwy datblygedig sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion gofal penodol yn eu dewis feysydd ymarfer nyrsio.” (NMC 2018a, t.6).

Mae Strategaeth Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer rhaglenni Nyrsio cyn-cofrestru, sy’n arwain at fynediad i’r gofrestr broffesiynol, yn nodi’r broses ar gyfer mesur perfformiad myfyrwyr yn erbyn Nyrs y Dyfodol: Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig (NMC 2018a).
Mae’r safonau hyfedredd yn y ddogfen hon yn nodi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae’n rhaid i nyrsys cofrestredig eu dangos wrth ofalu am bobl o bob oed ac ym mhob lleoliad gofal. Maent yn adlewyrchu’r hyn y gall y cyhoedd ddisgwyl i nyrsys ei wybod a gallu ei wneud er mwyn darparu gofal nyrsio diogel, trugarog ac effeithiol.

Cynnwys

Mae cynnwys y modiwl yn adlewyrchu safonau rheoliadol yr NMC, sy'n nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar nyrsys cofrestredig medrus, ac felly mae'r modiwl yn ymdrin â'r elfennau a nodir yn Rhannau 1, 2 a 3 o Safonau Gwireddu Proffesiynoldeb yr NMC yn ogystal â'r Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig.

Mapio deilliannau hyfedredd nyrsys y dyfodol a sgiliau a gweithdrefnau atodol. Mae Safonau hyfedredd ar gyfer nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018) yn nodi deilliannau hyfedredd, sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau a’r gweithdrefnau nyrsio y mae’n rhaid i nyrs sy’n astudio eu dangos er mwyn cael ymuno â chofrestr broffesiynol yr NMC fel Nyrs Gofrestredig Raddedig.

Mae’r deilliannau hyfedredd sydd yn y Ddogfen Asesu Ymarfer hon yn nodi’r wybodaeth, sgiliau, ymagweddau ac ymddygiadau y mae’n rhaid i’r myfyriwr allu eu dangos erbyn diwedd y rhaglen. Maent wedi’u trefnu gyda chyfeiriad at blatfformau ac atodiadau hyfedredd yr NMC (NMC 2018):

1. Bod yn weithiwr proffesiynol atebol
2. Hybu iechyd ac atal salwch
3. Asesu anghenion a chynllunio gofal
4. Darparu a gwerthuso gofal
5. Arwain a rheoli gofal nyrsio a gweithio mewn timau
6. Gwella diogelwch ac ansawdd gofal
7. Cydlynu gofal

Atodiad A: Sgiliau cyfathrebu a rheoli cydberthnasau
Atodiad B: Gweithdrefnau nyrsio

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos yr wybodaeth y maent wedi’i dysgu, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Gyda chymorth mentora a phrofiad uniongyrchol, disgwylir i fyfyrwyr adeiladu ar eu gwybodaeth a deall ymhellach yr angen i fod yn hyblyg, yn greadigol ac yn ddyfeisgar yn eu harfer bob dydd. Yn ogystal, gall y maes clinigol fod yn heriol ac mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn profi sefyllfaoedd gofal iechyd anodd a allai eu llethu’n emosiynol. Ar y modiw
Cydlynu ag erail Bydd y modiwl yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy ei chymhwyso’n ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am y swyddogaethau proffesiynol a'r gymysgedd o sgiliau sydd eu hangen mewn timau clinigol i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach y sgiliau ymarferol a chydgysylltiol sydd eu hangen i weithio mewn timau amlddisgyblaethol.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y myfyriwr o gyfathrebu proffesiynol trwy’r profiad o gymryd rhan yn eu lleoliad ymarfer. Cynorthwyir myfyrwyr ymhellach i ddatblygu eu medrau cyfathrebu proffesiynol trwy roi a derbyn gwybodaeth wrth drosglwyddo gwybodaeth i’r sifft nesaf, ysgrifennu yng nghofnodion a siartiau clinigol cleifion, cyflwyno gwybodaeth wrth fynd o amgylch wardiau, cyfathrebu â chleifion, teuluoedd ac aelodau tîm amlddisgyblaethol.
Datrys Problemau Creadigol Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael profiad o ymarfer clinigol, a bydd gofyn iddynt gyfrannu at y gwaith o ddarparu gofal ymarferol i gleifion, dan oruchwyliaeth uniongyrchol cydweithwyr clinigol. Bydd angen i fyfyrwyr ddangos yr wybodaeth y maent wedi’i dysgu, gan barhau i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau mewn amgylcheddau amser real. Gyda chymorth mentora a phrofiad ymarferol, disgwylir i fyfyrwyr adeiladu ar eu gwybodaeth a deall ymhellach yr angen i fod
Gallu digidol Ar y modiwl hwn bydd angen i’r myfyrwyr barhau i ddefnyddio/dysgu sut i: • ddefnyddio Blackboard • lan-lwytho cofnodion i'w Dogfen Asesu Proffesiynol • cyflwyno gwaith yn electronig • defnyddio llwyfannau electronig a ddefnyddir yn yr amgylchedd clinigol
Meddwl beirniadol a dadansoddol Drwy gael profiad ‘amser real’ o ofal clinigol, bydd myfyrwyr yn llwyr werthfawrogi'r angen i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol. Bydd y modiwl lleoliad ymarferol hwn yn helpu myfyrwyr i ddysgu trwy arsylwi sut y gwneir penderfyniadau clinigol ar sail symptomau, sut y gellir cysylltu symptomau â data clinigol eraill a sut y gall archwiliadau ac arsylwadau helpu wrth benderfynu ar opsiynau triniaeth a darpariaeth gofal, gan ddangos felly bod angen gwybodaeth ddadansoddol eang, a su
Myfyrdod Yn ystod y modiwl ymarferol hwn, bydd myfyrwyr yn cael profiad o 'fyfyrio wrth weithio', a fydd yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau ymarferol trwy brofi a chymryd rhan mewn gwaith clinigol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau myfyrio drwy gwblhau gwaith myfyrgar yn seiliedig ar addysg ryngbroffesiynol o fewn gofal iechyd.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach yn y meysydd canlynol: • ymarfer nyrsio proffesiynol mewn perthynas â darparu gofal yn ymarferol - sgiliau clinigol - sgiliau hanfodol/sylfaenol (bwydo/golchi/helpu cleifion i fynd i’r toiled) - asesu - cynllunio gofal - cloriannu gofal - archwiliadau a darparu triniaet - care planning - care evaluation - investigations and treatment delivery - communication • the delivery of person-centred holistic care • safe practice
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl hwn yn atgyfnerthu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y modiwlau blaenorol, trwy ei chymhwyso’n ymarferol mewn amgylcheddau amser real. Bydd myfyrwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau clinigol a chymhwyso eu gwybodaeth i sefyllfaoedd clinigol dan oruchwyliaeth eu goruchwyliwr ymarfer. Bydd y lleoliad ymarfer hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i gymhlethdodau ymarfer clinigol, a fydd yn rhoi sylfaen iddynt ddatblygu ymhellach yn ystod 2il flwyddyn y rhaglen.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4