Module Information

Cod y Modiwl
LL21100
Teitl y Modiwl
Llydaweg: Cyflwyniad
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion  Pecyn o ymarferion (8 eitem)  30%
Asesiad Ailsefyll Arholiad Llafar  10 Munud  20%
Asesiad Semester Ymarferion  Pecyn o ymarferion wythnosol (8 eitem)  30%
Asesiad Semester Arholiad Llafar  10 Munud  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio'r amser gorffennol agos/perffaith a'r amser gorffennol pell/gorberffaith a hefyd rai ffurfiau berfol amser presennol.

Dylai fedru defnyddio'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, a medru ei darllen ar lefel elfennol.

Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio amser presennol parhaol y ferf bezon ac amser presennol arferiadol amryw ferfau eraill, rheolaidd ac afreolaidd.

Dylai fedru'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig a medru mynd i'r afael a thestunau elfennol yn yr iaith.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir teithi sylfaenol Llydaweg Modern. Cyflwyniad i Lydaweg cyfoes. Amcan y cwrs yw galluogi'r myfyriwr i gynnal sgwrs elfennol yn yr iaith ac i ddechrau ei hysgrifennu a'i darllen, ynghyd â a chyflwyno gwybodaeth gefndirol am Lydaw a'i llenyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages)

Cynnwys

1. Amser gorffennol agos/perffaith
2. Amser gorffennol pell/gorberffaith
3. Ffurfiau berfol amser presennol.
4. Amser presennol parhaol y ferf bezon
5. Amser presennol arferiadol amryw ferfau rheolaidd ac afreolaidd.
Seilir yr arholiadau ar yr hyn sydd yng ngwersi Kentelioù Brezhoneg Diazez

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5