Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad llafar 10 Minutes | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o dasgau rheolaidd (8 tasg) 1500 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Arholiad llafar 10 Minutes | 20% |
Asesiad Semester | Portffolio o dasgau rheolaidd (8 tasg) 1500 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg gyda hyder.
Byddwch yn gallu dirnad darlithiau tra chymleth yn yr Wyddeleg.
Byddwch yn gallu trafod eich darllen trwy gyfrwng yr Wyddeleg.
Byddwch yn gallu ysgrifennu traethawd tra datblygedig yn yr Wyddeleg.
Byddwch wedi darllen (a) storiau byrion detholedig gan awduron pwysicaf yr ugeinfed
ganrif a (b) samplau o farddoniaeth o'r cyfnod 1700-2000.
Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol eich
darllen.
Disgrifiad cryno
Dosbarthiadau ieithyddol ar dafodieithoedd yr Wyddeleg, ffonoleg, morffoleg; ac ar Wyddeleg safonol. Cyfieithu o'n naill iaith i'r llall. Dosbarthiadau llenyddol yn trafod nofelau Gwyddeleg yr ugeinfed ganrif, a datblygiad yr hunangofiant Gwyddeleg.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn cynnwys gweithdai iaith, darlithiau llenyddol, a chyfloedd i ymarfer yr iaith ac i drafod y llenyddiaeth dan sylw.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau sy'n eu galluogi i siarad yr Wyddeleg yn hyderus mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd myfyrwyr yn trafod materion gramadegol mewn gweithdai ac yn gallu esbonio materion gramadegol yn eu haseiniadau ac yn yr arholiad. |
Datrys Problemau Creadigol | Ymateb i heriau technegol sydd ymhlyg mewn gramadeg a thasgau gramadegol penodol; bydd myfyrwyr yn anelu at gywirdeb gramadegol |
Myfyrdod | Mae'r gweithdai iaith yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafodtasgau iaith a chyfeitihiadau; mae pecyn o dasgau rheolaidd yn caniatau i fyfyrwyr fesur a myfyrio ar eu perfformiad ac ar eu datblygiad personol. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Mae'r sgiliau ieithyddol llafar ac ysgrifenedig a ddatblygir ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6