Module Information

Cod y Modiwl
FGM6420
Teitl y Modiwl
Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Rhaid i fyfyrwyr fod yn gyfarwydd ag iaith raglennu.
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 24 Awr   Ailgyflwyno  Ailgyflwyno elfen(nau) a fethwyd fel y pennir gan Fwrdd Arholi'r Adran  100%
Asesiad Semester Adroddiad ar Ddulliau Rhifiadol  2000 Words  40%
Asesiad Semester Tasg Cyfathrebu Ysgrifenedig  1000 Words  20%
Asesiad Semester 1 Awr   Tasg Cyfathrebu Llafar  20%
Asesiad Semester 4 Awr   Tasg Rifiadol  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos meistrolaeth ar dechnegau rhifiadol ar gyfer modelu systemau ffisegol

Defnyddio technegau uwch ar gyfer cyfrifiadura a dadansoddi gwyddonol

Cyfansoddi adroddiad ysgrifenedig ar dechnegau cymhwysol a'u canlyniadau

Cyflwyno syniadau cymhleth trwy drafodaeth ysgrifenedig a llafar

Gwerthuso cyhoeddiadau cyfnodolion gwyddonol yn feirniadol

Disgrifiad cryno

Mae ymchwil cyfoes yn aml yn gofyn am gymhwyso dulliau rhifiadol i ddatrys problemau mewn ffiseg. Mae hefyd yn gofyn am y gallu i gyfathrebu a chyflwyno syniadau a chanlyniadau yn glir. Mae'r modiwl hwn yn cyfuno cymhwyso technegau rhifiadol a dulliau cyfathrebu i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol.

Cynnwys

- Datrys systemau hafaliadau llinol gan ddefnyddio dadelfeniad LU(P).
- Datrys systemau gwasgarog o hafaliadau llinol gan ddefnyddio dulliau iterus
- Brasamcanu hafaliadau differol rhannol gan ddefnyddio dulliau gwahaniaeth meidraidd
- Datrys problemau gan ddefnyddio dulliau Monte Carlo
- Efelychu systemau mecanyddol ystadegol gan ddefnyddio dulliau metropolis Monte Carlo
- Cyflwyno technegau rhifiadol a chanlyniadau
- Arddulliau ysgrifennu a chyflwyniad llafar
- Dadansoddi papurau cyfnodolion ac adroddiadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Trafodaeth, gwerthuso beirniadol a datrys problemau trwy gydol y modiwl
Cyfathrebu proffesiynol Drwy gydol y modiwl
Datrys Problemau Creadigol Drwy gydol y modiwl, yn enwedig o ran cymhwyso technegau rhifiadol i adeiladu modelau ffisegol
Gallu digidol Drwy gydol y modiwl
Meddwl beirniadol a dadansoddol Drwy gydol y modiwl
Myfyrdod Yn gynhenid i ddadansoddi, a chymhwyso adborth
Sgiliau Pwnc-benodol Rhaglennu, dulliau rhifiadol, cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar), dadansoddi beirniadol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7