Module Information

Cod y Modiwl
FG15030
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (30 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 8 Awr   Asesiad atodol  Fel y penderfynir gan Fwrdd Arholi yr Adran.  100%
Asesiad Semester Adroddiad ffurfiol  Adroddiad Lab Ysgrifenedig ar arbrawf penodedig. 1000 o eiriau  15%
Asesiad Semester Portffolio o Ddyddiaduron Labordy  Dyddiaduron Lab Ysgrifenedig. Asesir y myfyrwyr ar ansawdd y cymryd nodiadau yn ystod arbrawf gosod. Mae pob arbrawf yn unigryw, ac mae hyd y geiriau sydd eu hangen yn wahanol. Yr isafswm yw 200 gair fesul arbrawf. 500 o eiriau  60%
Asesiad Semester 4 Awr   Gweithdy gyrfaoedd  4 Awr  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  Cyflwyniad llafar 10 Munud  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gyflawni gweithdrefnau arbrofol gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau

Cynhyrchu adroddiad gwyddonol clir ar brosesydd geiriau gan gynnwys cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyno a dadansoddi canlyniadau, a dehongli a gwerthuso.

Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar.

Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phennu lledaeniad gwall.

Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen i wneud cyfrifiadau.

Arddangos y gallu i weithio gydag eraill mewn ffordd ystyriol a chydweithredol, gan barchu a chydnabod eiddo deallusol eraill. Cydnabod amrywiaeth, moeseg a chynaliadwyedd yn y gwyddorau ffisegol.

Cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau gyrfa; cynhyrchu CV a chymryd rhan mewn gweithgaredd canolfan asesu ffug.

Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o broses y gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau ac i brofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu technegau sylfaenol perfformio arbrofion, cymryd mesuriadau, rhoi cyfrif am ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu â theori.

Trefnir modiwlau arbrofol y cynlluniau gradd fel bod myfyrwyr yn datblygu o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl tra yn perfformio arbrofion syml ar y cychwyn, i gynnal ymchwiliad i mewn i destun a ddyfeisio eu harbrofion a’u hymchwiliadau eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion i arferion labordy mewn meysydd allweddol o'r gwyddorau ffisegol y gellir eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb tra yn cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â’r nodiadau a gedwir yn y dyddiadur, bydd disgwyl i fyfyrwyr ysgrifennu lan un o’r arbrofion fel adroddiad ffurfiol a chyflwyno un fel cyflwyniad llafar. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau o gasglu a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol. O fewn y modiwl, bydd sgiliau cyflogadwyedd yn cael eu pwysleisio gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol, gyda sesiynau wedi'u teilwra ar yrfaoedd, sgiliau trosglwyddadwy a pharatoi ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Cynnwys

Mae'r arbrofion yn seiliedig ar bynciau craidd yn y gwyddorau ffisegol, gan gwmpasu meysydd allweddol trwy ymchwiliad ymarferol.
Cadw nodiadau cywir ar gweithdrefnau arbrofol, arsylwadau, a chanlyniadau mewn dyddiadur labordy strwythuredig.
Dadansoddiad gwall sylfaenol.
Casglu a dadansoddi data digidol gan ddefnyddio taenlenni.
Paratoi adroddiad gwyddonol ffurfiol gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau.
Paratoi cyflwyniad llafar gwyddonol gan ddefnyddio pecyn cyflwyno.
Rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau a gyrfaoedd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn gwneud arbrofion mewn grwpiau o ddau, a byddem yn annog cydweithredu i ddatrys problemau modelu. Bydd myfyrwyr yn cydweithio yn y gweithdy gyrfaoedd.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu adroddiad ffurfiol ar brosesydd geiriau, gan ddefnyddio dadansoddiad a chyflwyniad data gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd priodol. Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu cyflwyniad byr o arbrawf gan ddefnyddio meddalwedd priodol.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd â phecynnau meddalwedd priodol ac yn cynhyrchu gwaith gyda nhw. Mae dadansoddi data modern yn dibynnu ar y defnydd o gyfrifiaduron. Mewn rhai arbrofion, mae myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data a bydd disgwyl iddynt wneud adroddiad labordy ar brosesydd geiriau.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd myfyrwyr yn cymhwyso technegau datrys problemau yn ystod arbrofion ac wrth drin data sy'n deillio o arbrofion.
Myfyrdod Bob wythnos mae'r adborth a ddarperir ar gyfer dyddiaduron y labordy yn annog y myfyrwyr i wella eu gallu i gymryd nodiadau a myfyrio ar eu gwaith.
Sgiliau Pwnc-benodol Defnydd o offer penodol. Perfformio arbrofion. Ysgrifennu dull gwyddonol. Dadansoddiad o ansicrwydd arbrofol. Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau a grwpiau bach, gan drafod eu canfyddiadau arbrofol. Yn y bôn, mae'r gwyddorau ffisegol yn seiliedig ar y defnydd o fathemateg a mesuriadau arbrofol. Mae cymhwyso rhif yn rhan ganolog o'r modiwl hwn.
Synnwyr byd go iawn Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu CV ac yn cymryd rhan mewn gweithdy arddull canolfan asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4