Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio 10 Munud | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad terfynol 2000 o eiriau | 70% |
Asesiad Semester | Adroddiad terfynol 2000 o eiriau | 70% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio 10 Munud | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cymhwyso gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o’r gweithle
Adnabod tasgau a phroblemau sy'n berthnasol i sefydliad y lleoliad gwaith a hwyluso canlyniadau priodol
Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a gwella ymwybyddiaeth o'u proffil sgiliau eu hun
Ymgysylltu'n rhagweithiol gydag unigolion a grwpiau yn y sefydliad
Datblygu'r gallu i adfyfyrio ar wybodaeth a phrofiad a gafwyd ar y lleoliad gwaith
Cyflwyno syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn cyflwyniad llafar
Cyfathrebu a chydweithio’n effeithiol gyda chymheiriaid a gydag unigolion amrywiol yn lleoliad yr ymarfer
Datblygu gallu mewn amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys darllen, cymathu, ymchwilio a beirniadu systemau cyfundrefnol neu sefydliadol cymhleth
Datblygu gallu i gyfleu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol yn defnyddio moddau sy'n briodol i'r lleoliad gwaith, yn cynnwys cyfathrebu llafar, ysgrifenedig ac electronig
Disgrifiad cryno
Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.
Nod
Nod y modiwl yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad gwaith o fewn y Brifysgol neu gyda sefydliad allanol. Mae’n sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud â darnau real o waith neu brosiectau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi a’u defnyddio ac sy’n adlewyrchu anghenion ac arferion cyfredol yn y gweithle.
Cynnwys
Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i’r profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd. Cydlynydd y modiwl fydd yn trefnu’r profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i’w profiad gwaith ei hunain e.e. yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn. Mae’n angenrheidiol fod cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo’r profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i’r profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae’n rhaid i’r myfyrwyr gwblhau o leiaf 80 awr o waith. Disgwylir i’r myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 2,000 o eiriau. Dylai’r adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o’r prosiectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar ganlyniadau y profiad gwaith.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a’i ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi’r myfyrwyr gyda’r gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a’r hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu’r myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna’r ethos sy’n sail i’r modiwl yma. |
Datrys Problemau | Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol |
Gwaith Tim | Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i’r adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a’r gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma’n dibynu ar y lleoliad profiad gwaith. |
Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6