Module Information

Cod y Modiwl
DA32220
Teitl y Modiwl
Cenedlaetholdeb a chymdeithas
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (3,000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Ffilm fer mewn arddull ffilm dogfen  (5 munud)  50%
Asesiad Semester Ffilm fer mewn arddull ffilm dogfen  (5 munud)  50%
Asesiad Semester Traethawd  (3,000 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso'n feirniadol y syniad o gendlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono.

Trafod yn feirniadol ddehongliadau perthynol o genedlaetholdeb.

Dadansoddi gwerth cysyniadau ar gyfer deall arwyddocad cenedlaetholdeb ym maes polisi.

Cynhyrchu ffilm ddogfen o safon uchel.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i gyflwyno syniadau mwyaf blaengar ynghylch daearyddiaethau cenedlaetholdeb i fyfyrwyr. Yn y pum darlith cyntaf, cyflwynir myfyrwyr i'r syniad o'r genedlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono yn benodol. Pwysleisir yn y rhan yma yr angen i feddwl am y genedl fel endid cymdeithasol a gofodol sydd wedi ei greu ar sail rhwydweithiau o bobl a phethau amrywiol. Yn ail hanner y modiwl, trafodir goblygiadau'r syniadaeth hon ar gyfer pum pwnc trafod o bwys academaidd a pholisi ym maes cenedlaetholdeb: y broses o greu neu adeiladu cenhedloedd; y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth; amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol; y ffordd yr eir ati i frandio a gwerthu'r genedl; celfyddyd a'r genedl.

Asesir y modiwl trwy draethawd 3,000 o eiriau (50%), a fydd yn ffocysu ar y syniadau mwy cysyniadol a gyflwynwyd yn Rhan 1, poster academaidd (30%) a fydd yn canolbwyntio ar arwyddocad y cysyniadau hyn ar gyfer deall cenedlaetholdeb mewn un maes polisi penodol, a blog, lle bydd gofyn i'r myfyrwyr i ysgrifennu 5 cyfraniad sy'n dod at 1,500 o eiriau lle byddant yn sylwebu ar esiamplau cyfoes o arwyddocad cenedlaetholdeb (20%).

Cynnwys

Rhan 1: Cynhyrchu'r genedl berthynol
1. Cyflwyniad i'r genedl - o Westphalia at y presennol
2. Cofnodi'r genedl: tirlun, cof, a phwer
3. Y genedl rhwydweithiedig I: actorion, rhwydweithiau, a diaspora
4. Y genedl rhwydweithiedig II: nodau, lleoedd, a llifau
5. Ffinio'r genedl: cynhyrchiad beunyddiol tiriogaeth, gofod, a graddfa

Rhan 2: Deall cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn'
6. Creu cenhedloedd: swyddogoli a sefydliadu
7. Dinasyddiaeth genedlaethol: ffurfioli a negodi aelodaeth
8. Peiriau dad-eni: amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol
9. Celfyddyd a chenedlaetholdeb: darganfod einioes y genedl
10. Brandio'r genedl: ad-nwyddo, globaleiddio, a chystadleuaeth

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r traethawd, y poster a'r blog. Ysgogir y myfyrwyr i drin a thrafod syniadau yn y darlithoedd ond ni asesir hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Golyga'r pwyslais ar astudio cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn' bod anogaeth ar i'r myfyrwyr i feddwl am y cysylltiadau rhwng syniadau academaidd a byd gwaith
Datrys Problemau Bydd raid i'r myfyrwyr i ddatrys problemau academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Gwaith Tim Ni ddatblygir hyn fel rhan o'r modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr i drefnu eu hamser eu hunain ac i ymchwilio ac ysgrifennu'n gyson ar gyfer y blog yn benodol
Rhifedd Ni ddatbygir y sgil hwn yn benodol
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd raid i'r myfyrwyr i wneud ymchwil academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i'r myfyrwyr feistroli technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau ac, yn benodol, wrth baratoi'r poster a'r blog

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6