Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Briff polisi (5 munud) 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Briff polisi Briff polisi sy'n gwerthuso ymyrraeth polisi mewn astudiaeth achos yn feirniadol. 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso'n feirniadol y syniad o gendlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono.
Trafod yn feirniadol ddehongliadau perthynol o genedlaetholdeb.
Dadansoddi gwerth cysyniadau ar gyfer deall arwyddocad cenedlaetholdeb ym maes polisi.
Gwerthuso ymyrraethau polisi sy'n ymwneud â chenedlaetholdeb yn feirniadol
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i gyflwyno syniadau mwyaf blaengar ynghylch daearyddiaethau cenedlaetholdeb i fyfyrwyr. Yn y pum darlith cyntaf, cyflwynir myfyrwyr i'r syniad o'r genedlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono yn benodol. Pwysleisir yn y rhan yma yr angen i feddwl am y genedl fel endid cymdeithasol a gofodol sydd wedi ei greu ar sail rhwydweithiau o bobl a phethau amrywiol. Yn ail hanner y modiwl, trafodir goblygiadau'r syniadaeth hon ar gyfer pum pwnc trafod o bwys academaidd a pholisi ym maes cenedlaetholdeb: y broses o greu neu adeiladu cenhedloedd; y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth; amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol; y ffordd yr eir ati i frandio a gwerthu'r genedl; celfyddyd a'r genedl.
Cynnwys
Themâu: damcaniaethau cenedlaetholdeb, cenhedloedd a thiriogaethdeb, cenhedloedd a rhwydweithiau, perthynoldeb.
Rhan 2: Y genedl mewn polisi ac ar waith
Themâu: poblyddiaeth, cenedlaetholdeb a globaleiddio, amlddiwyllianedd a hawliau lleiafrifol, dinasyddiaeth, affaeth ac estheteg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r traethawd, y poster a'r blog. Ysgogir y myfyrwyr i drin a thrafod syniadau yn y darlithoedd ond ni asesir hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Golyga'r pwyslais ar astudio cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn' bod anogaeth ar i'r myfyrwyr i feddwl am y cysylltiadau rhwng syniadau academaidd a byd gwaith |
Datrys Problemau | Bydd raid i'r myfyrwyr i ddatrys problemau academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog. |
Gwaith Tim | Ni ddatblygir hyn fel rhan o'r modiwl |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i drefnu eu hamser eu hunain ac i ymchwilio ac ysgrifennu'n gyson ar gyfer y blog yn benodol |
Rhifedd | Ni ddatbygir y sgil hwn yn benodol |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd raid i'r myfyrwyr i wneud ymchwil academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i'r myfyrwyr feistroli technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau ac, yn benodol, wrth baratoi'r poster a'r blog |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6