Module Information

Cod y Modiwl
DA20510
Teitl y Modiwl
Ymchwilio i bobl a lle
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 1  (1000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 2  (1000 gair)  50%
Asesiad Semester Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 1  (1000 gair)  50%
Asesiad Semester Portffolio ymchwil ysgrifenedig rhan 2  (1000 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. ​Amlinellu’r gwahanol safwbyntiau deallusol a geir mewn daearyddiaeth ddynol a’r gwyddorau cymdeithasol cysylltiedig, a’r mathau o ddulliau a ddefnyddir gan y safbwyntiau hyn.

2. Llunio cwestiynau ymchwil, nodau, ac amcanion ymarferol.

3. Dethol dulliau priodol a’u cyfiawnhau yng nghyd-destun cwestiynau ymchwil, nodau, ac amcanion.

4. Gwerthuso manteision a chyfyngiadau ystod o dechnegau ansoddol mewn cyd-destunau ymchwil penodol.

5. Asesu’n feirniadol pragmatiaeth cyfosod technegau penodol ar waith.​

Disgrifiad cryno

Trafoda’r modiwl hwn dulliau ymchwil ansoddol ar gyfer ymchwilio i bobl a lle. Llunnir y modiwl o gwmpas cyfres o ddarlithoedd sy’n cynnwys elfennau o weithdai er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r technegau allweddol, ac adeiladu gwybodaeth ymarferol o ddefnyddio dulliau ymchwil yn y maes.

Cynnwys

Mae’r modiwl yn cynnwys 9 x darlith 2-awr sy’n ystyried ystod o safbwyntiau: cyflwyniad i fframweithiau ymchwil, cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron, dadansoddi testun, archifau, technegau fideograffaidd, a dulliau ymchwil newydd a chreadigol. Rhennir darlithoedd i mewn i awr o draddodi confensiynol ac awr o waith ymarferol er mwyn datblygu sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer y dulliau a gyflwynwyd yn y darlithoedd. Cynhelir gweithdy er mwyn cefnogi’r aseiniad ar ddiwedd y modiwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn defyddio cyfryngau ysgrifenedig a graffig er mwyn dadansoddi a chyflwyno data.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gall y sgiliau a ddatblygir drwy’r modiwl hwn osod seiliau ar gyfer astudiaethau pellach, ac maent hefyd yn drosglwyddadwy i gyd-destunau ymarferol anacademaidd. Pwysleisir eu perthnasedd ar gyfer astudio pellach a chyflogadwyedd drwy gydol y modiwl, gan gynnwys ar gyfer yr aseiniad.
Datrys Problemau Gwneir, drwy ddewis fframweithiau cysyniadol priodol a’r technegau cysylltiedig ar gyfer cyd-destunau ymchwil penodol.
Gwaith Tim Cynhwysir gwaith tim mewn ambell ddarlith a sesiwn ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwneir, drwy ddarllen annibynnol gyda chyfadran fyfyriol yr aseiniad.
Rhifedd N/A
Sgiliau pwnc penodol Cywain, dadansoddi, a chyflwyno data daearyddol a chymdeithasol.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau darllen, meddwl, ac ysgrifennu drwy drafodaethau yn y dosbarth ac yn yr aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn dangos eu cymhwysedd drwy ddefnyddio Blackboard a’r adnoddau digidol a geir yn yr amgylchedd e-ddysgu hwnnw.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5