Module Information

Cod y Modiwl
DA11520
Teitl y Modiwl
Sut i Greu Planed
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad aml-ddewis  1.5 Awr  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad aml-ddewis  1.5 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio gwaith cwrs  700 o eiriau  50%
Asesiad Semester Portffolio gwaith cwrs  700 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio siâp a strwythur mewnol y blaned, a'r technegau a ddefnyddir i astudio ein Daear 3D

Dangos dealltwriaeth o dectoneg platiau, gan gynnwys natur ffiniau platiau, mecanweithiau symud, a pheryglon daearegol cysylltiedig (llosgfynyddoedd,daeargrynfeydd, swnami)

Dangos dealltwriaeth o'r prosesau cyfnewid sylfaenol rhwng yr atmosffer, hydrosffer a lithosffer gan gynnwys cylchrediadau’r atmosffer a’r cefnforoedd a'r cylch dŵr

Dangos dealltwriaeth o natur a rheolaethau newidiadau yn yr hinsawdd ar amrywiaeth o raddfeydd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r rhyngweithio byd-eang rhwng cydrannau solet a hylifol system y Ddaear. Bydd yn archwilio nodweddion a’r mecanweithiau sy’n gyrru cylchrediadau creigiau a dŵr a’r cylchrediadau yn yr atmosffer a'r cefnforoedd sy'n siapio'r blaned ddeinamig hon yn barhaus.
Nod y modiwl yw meithrin dealltwriaeth o'r prosesau daearegol sy'n creu tirwedd a nodweddion solet y Ddaear, a'r prosesau sy'n cynhyrchu ac yn rheoli tywydd a hinsawdd.
Bydd yn darparu'r fframwaith sylfaenol ar gyfer deall ac ymchwilio i system amgylchedd y ddaear, dynameg newid byd-eang a'i oblygiadau i fywyd ar y ddaear.

Cynnwys

Bydd tair rhan i’r modiwl:
1.Y lithosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio tarddiad y Ddaear a chysawd yr haul a siâp a strwythur ein planed yn ogystal â mecanweithiau tectoneg platiau a pheryglon cysylltiedig. Bydd hefyd yn cyflwyno cylchred yr uwchgyfandiroedd, a'r rhyngweithio rhwng cyfandiroedd, yr hinsawdd a lefel y môr ar raddfa amser ddaearegol
2.Yr atmosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio hanfodion ymbelydredd solar, ynni atmosfferig a'r gyllideb gwres fyd-eang a rhyngweithio prosesau allweddol yng nghydran atmosfferig y cylch dŵr - anweddu, ffurfio cymylau a dyodiad.Bydd hefyd yn archwilio cylchrediad atmosfferig byd-eang a'iddylanwad ar yr hinsawdd.
3.Yr hydrosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio storfeydd a llwybrau'r cylch dŵr, gan gynnwys cylchrediad y cefnforoedd, dŵr ffo byd-eang a dŵr daear yn ogystal â materion adnoddau dŵr cysylltiedig ac effaith newid amgylcheddol.
Cefnogir hyn gan ddysgu gweithredol trwy sesiwn ymarferol gysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau mewn trin, dadamsoddi a chyflwyno data.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu adroddiad i gyfathrebu dadansoddiad o ddata ac felly bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a gweledol yn cael eu datblygu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu - bydd ffug arholiad anffurfiol yn annog hyn, ond ni fydd myfyrio yn cael ei asesu'n ffurfiol. Mae trin data yn sgil sy'n berthnasol i yrfaoedd yn y dyfodol. Mae'r gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith wyddonol briodol a gweithio fel rhan o dîm yn sgiliau generig a throsglwyddadwy ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n ffurfiol.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau datrys problemau trwy'r pedair sesiwn ymarferol dysgu gweithredol gan gynnwys defnyddio gwefan delweddu a lawrlwytho data am y tro cyntaf. Bydd angen i fyfyrwyr benderfynu ar y ffordd orau i ddadansoddi a chyflwyno data daearyddol a daearegol yn yr ymarferion hyn, yn aml trwy broses ailadroddol o arbrofi.
Gwaith Tim Bydd cyfle i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd os dymunant yn ystod y sesiynau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr addasu i arddull ddysgu fwy annibynnol a hunangyfeiriedig i gwblhau'r sesiynau ymarferol. Bydd cydrannau asesu ymarferol hefyd yn gofyn am rannu adnoddau â myfyrwyr eraill ar y cwrs, gan feithrin sgiliau gweithio mewn tîm a fydd o fudd i'w gallu i addasu a'u gwytnwch mewn amgylcheddau gweithio mewn grŵp a dysgu grŵp yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn sgiliau meddal gwerthfawr ar gyfer eu bywyd ehangach a gyrfa y tu hwnt i'r brifysgol
Rhifedd Bydd gofyn i fyfyrwyr drin data rhifyddol fel rhan o un gydran asesu.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r prosesau a'r rhyngweithiadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â daeareg a daearyddiaeth ffisegol y Ddaear. Bydd yn gosod y sylfaen ar gyfer astudio gwyddor daear, prosesau wyneb y ddaear, geomorffoleg a hydroleg mewn modiwlau eraill yn Rhan 1 a Rhan 2.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ddehongli data amgylcheddol ar gyfer un o'r sesiynau ymarferol (adroddiad ymarferol byr) a meddwl yn feirniadol hefyd am y ffyrdd gorau o gyflwyno data gwyddonol/daearyddol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno a dehongli data ar gyfer un asesiad, a defnyddio meddalwedd ddigidol i gwblhau'r rhain. Bydd y weithgareddasesiad hyn yn datblygu llythrennedd cyfrifiadurol. Mae darllen pellach yn rhan annatod o ddysgu dan gyfarwyddyd myfyrwyr, sy'n gofyn am gymhwysedd i ddod o hyd i ffynonellau perthnasol ac ymgysylltu â nhw ar-lein a thrwy beiriannau chwilio digidol yn y llyfrgell.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4