Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol Bydd gofyn i fyfyrwyr syn methur modiwl gyflenwi unrhyw elfennau asesedig sydd yn eisiau, ac/neu ailgyflwyno unrhyw aseiniadau gwaith cwrs a fethwyd (gan ysgrifennu ar bwnc newydd), a/neu sefyll y papur arholiad atodol. 2 Awr | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Cyfieithu 2000 Words | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio cyfieithu 2000 Words | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos sgiliau cyfieithu priodol
Gwerthfawrogi cydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol ar gyfieithu
Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth addasu testunau o'u dewis eu hunain
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i wahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu (llenyddol, technegol, hanesyddol ymarferol).
Nod
Datblygu sgiliau trosglwyddadwy trwy gyfuno agweddau theoretig ac ymarferol ar gyfieithu ac addasu testunau. Nod y modiwl fydd meithrin y medrau angenrhediol mewn cyfieithu ac addasu ar lefel broffesiynol.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd a gweithdai ymarferol lle bydd cyfle i fyfyrwyr ymarfer technegau cyfieithu a rhoi damcaniaethau cyfieithu ar waith a ystyrir yn y darlithoedd. Bydd y darlithoedd yn cynnig trosolwg o amrywiaeth o ddamancaniaethau cyfieithu llenyddol a chreadigol gan ystyried y cyd-destun hanesyddol a'r gofynion gwahanol wrth weithio mewn sawl cyfrwng e.e. drama, barddoniaeth.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu'n rhugl gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir mewn dosbarthiadau ac mewn profion. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn meithrin ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu cyfieithwyr ac addaswyr wrth eu gwaith |
Datrys Problemau | Hanfod y modiwl fydd trin a thrafod nodweddion dwy iaith a'r cwestiynau syniadol a thechnegol a gyfyd wrth symud rhyngddynt. |
Gwaith Tim | Anogir myfyrwyr i gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau'r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir myfyrwyr i werthuso adborth gan gyd-fyfyrwyr a darlithwyr ac i drafod gwaith ysgrifenedig ei gilydd wrth iddo gael ei baratoi. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio testun i'w addasu gan ddefnyddio'r llyfrgell a chyfryngau eraill. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr (a'u hyfforddi lle bo hynny'n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith a'u paratoi ar gyfer byd gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6