Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | Traethawd 2 3000 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 Atodol 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 Atodol 3000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 1 2000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
dangos dealltwriaeth aeddfed o dirwedd wleidyddol, ddiwylliannol a llenyddol y cyfnod;
dangos dealltwriaeth eang o’r eirfa gysyniadol arbenigol a ddefnyddir wrth drafod y cyfnod;
medru ymateb yn feirniadol i ystod eang o destunau gan y llenorion a enwyd uchod ac eraill;
gwerthfawrogi y gellir trafod rhyddiaith y cyfnod o ran cyd-destun hanesyddol, yng ngoleuni gwaith ehangach y llenorion perthnasol; o safbwynt y derbyniad a roddwyd iddo; yn ei hawl ei hun fel gwrthrych.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i brif awduron a mudiadau llenyddol y cyfnod rhwng 1900 a 1979.
Nod
Mae’r modiwl hwn yn sicrhau bod deunydd canonaidd yr 20fed ganrif yn rhan o arlwy’r Adran. Gellir ei ystyried yn ogystal yn gymar naturiol i CY35420 (Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif).
Cynnwys
2, Olynwyr Daniel Owen: awduron nofelau cynnar y ganrif
3. Y stori fer yn nechrau’r ganrif
4. Cymru ail chwarter yr ugeinfed ganrif
5. Storïau byrion Kate Roberts
6. Ysgrifau T. H. Parry-Williams
7. Ysgrifau R. T. Jenkins ac E. Tegla Davies
8. Gweithdy
9. Storïau byrion John Gwilym Jones
10. Cymru’r 1950au
11 Twf y nofel: Kate Roberts
12 Twf y nofel: Islwyn Ffowc Elis
13. Twf y nofel: John Rowlands
14. Twf y nofel: Jane Edwards
16. Gweithdy
17. Cymru 1960-79
18 Hunangofiannau llenyddol a ‘gwleidyddol’
19. Llyfrau taith
20. Nofelau hanes
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad ymateb y llenorion hyn i Gymru a’r byd ar ôl 1979. |
Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6