Module Information

Cod y Modiwl
CY01120
Teitl y Modiwl
Sylfaen Sgiliau Academaidd 2
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Co-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 2  25%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 3  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1  Aseiniadau ysgrifenedig a/neu ar lafar yn lle yr elfennau a fethwyd hyd at fwyafswm o 3 aseiniad. Bydd aseiniadau unigol yn lle aseiniadau tîm lle mae un person wedi methu elfen o waith tîm.   25%
Asesiad Semester Traethawd unigol  (1500 gair) Myfyrio'n feirniadol ar ddysgu  50%
Asesiad Semester Prosiect tîm: dylunio gwybodaeth  (750 gair yr aelod tîm)  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar tîm: dylunio gwybodaeth  (750 gair yr aelod tîm)  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Gweithio’n annibynnol ac mewn timau i gynllunio a drafftio ystod o aseiniadau academaidd ysgrifenedig a llafar.

2. Adnabod a defnyddio strwythurau, patrymau dadlau ac arddulliau iaith gwahanol ar gyfer traethodau, prosiectau ar-lein, seminarau a chyflwyniadau.

3. Defnyddio cyfeiriadau, dyfyniadau, syniadau wedi’u crynhoi, trawsieithu ac aralleirio, cyfeirnodi a llyfryddiaethau mewn seminarau a chyflwyniadau llafar, ac mewn dogfennau aml-gyfryngol, yn briodol.

4. Traddodi cyflwyniadau’n effeithiol a chyfrannu’n effeithiol i drafodaethau seminar.

Disgrifiad cryno

Drwy amrywiaeth o weithgareddau ac aseiniadau bydd y myfyrwyr yn gweithio tuag at gaffael a gwella’r sgiliau astudio penodol sydd eu hangen ar gyfer eu cynllun gradd. Bydd y modiwl yn cynnwys gwaith unigol, gwaith tîm, gweithgareddau a arfarnir gan yr unigolyn ei hun a gweithgareddau a arfarnir gan gyfoedion. Mae’r unedau dysgu yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer darllen yn effeithiol, arfarnu’n feirniadol, cymryd rhan mewn seminarau, cymryd nodiadau, cynllunio a rheoli amser, rhoi cyflwyniadau, datblygu prosiectau ac ysgrifennu academaidd a dargedir at friffiau aseiniad.

Cynnwys

Drwy amrywiaeth o weithgareddau ac aseiniadau bydd y myfyrwyr yn gweithio tuag at gaffael a gwella’r sgiliau astudio penodol sydd eu hangen ar gyfer eu cynllun gradd. Bydd y modiwl yn cynnwys gwaith unigol, gwaith tîm, gweithgareddau a arfarnir gan yr unigolyn ei hun a gweithgareddau a arfarnir gan gyfoedion. Mae’r unedau dysgu yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer darllen yn effeithiol, arfarnu’n feirniadol, cymryd rhan mewn seminarau, cymryd nodiadau, cynllunio a rheoli amser, rhoi cyflwyniadau, datblygu prosiectau ac ysgrifennu academaidd a dargedir at friffiau aseiniad.

Mae’r themâu a ymdrinnir â hwy yn y modiwl fel a ganlyn. Gellir ymdrin â rhai elfennau (e.e. arfer academaidd) yn fwy trylwyr nag eraill yn unol â’u pwysigrwydd a’u perthnasedd i’r garfan o fyfyrwyr dan sylw.

Bydd y dysgu wythnosol yn cynnwys cyflwyniad ar bwnc penodol ynghyd â seminar grŵp lle mae myfyrwyr yn datblygu deunydd prosiect ar-lein a gwaith cynllunio a datblygu cysylltiedig. Gofynnir i fyfyrwyr gyfranogi’n weithredol, ymgymryd â gweithgareddau adolygu gan gyfoedion, a gwerthuso a chloriannu eu strategaethau dysgu a’u cynnydd. Mae’r pynciau a fydd yn cael eu hymdrin yn cynnwys y rhai canlynol:

Adnabod diddordebau personol a phroffesiynol mewn meysydd pwnc er mwyn adnabod timau prosiect a phynciau.

Cynllunio ac ysgrifennu cynigion prosiectau.

Arfarnu gwybodaeth ar-lein ar gyfer dibynadwyedd, cywirdeb ac agweddau cymharol ar ddyluniad y wybodaeth.

Gweithio gydag egwyddorion gwaith tîm, dysgu cydweithredol a dynameg grŵp.

Rheoli grwpiau prosiect ac unedau cydweithredol: llwythau gwaith cyfunol, pecynnau gwaith unigol, cyfarfodydd, golygu a chwblhau.

Ysgrifennu i’r we: eglurder, crynoder a ffocws ar y defnyddiwr.

Gweithio gydag arfarnu gwaith ysgrifenedig gan gyfoedion ac ymatebion adeiladol beirniadol.

Adnabod a gweithredu gwahaniaethau rhwng ysgrifennu a siarad.

Ysgrifennu ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd.

Adnabod a dilyn thema gysylltiol wrth ddylunio gwybodaeth ar-lein yn gydweithredol.

Adnabod strwythurau cyflwyno, strategaethau a rhannu traddodi’r cynnwys ar gyfer cyflwyniadau llafar a reolir gan dîm.

Datblygu dulliau ar gyfer ysgrifennu’n atblygol mewn cyd-destun academaidd.

Adeiladu ar agweddau hanfodol arfer academaidd da a addysgwyd yn semester 1: adnabod ac arfer sgiliau allweddol, gan gynnwys cyfeirnodi, dyfynnu, cyfeirio, llyfryddiaethau, aralleirio, trawsieithu, rheoli a defnyddio termau, arfau iaith cyfrifiadurol a chrynhoi.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dyma sgil graidd ar gyfer pob seminar, sesiwn ymarferol ac aseiniadau 1 a 2.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anogir myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r gynulleidfa rhwng ysgrifennu academaidd a sgiliau academaidd llafar a sut y gall y rhain amrywio wrth gyflwyno i gynulleidfaoedd academaidd a chyhoeddus. Adnabyddir llawer o agweddau ar sgiliau fel rhai trosglwyddadwy, sy’n magu hyder, ac yn allblyg i’r gymuned broffesiynol. Adlewyrchir ymwybyddiaeth feirniadol o hyn yn y traethawd.
Datrys Problemau Nae pob aseiniad yn gofyn i’r myfyrwyr ddehongli canllawiau ac adnabod strategaethau a strwythurau ar gyfer ymateb i’r gofynion.
Gwaith Tim Mae myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau gwaith tîm penodol ynghyd ag aseiniadau a ysgrifennir/paratoir gan dîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i fyfyrwyr fyfyrio ar ddysgu a pherfformio fel proses atblygol annibynnol a hefyd fel proses a adolygir gan gyfoedion/tîm. Ategir hyn gan recordiadau fideo o gyflwyniadau’r myfyrwyr.
Rhifedd Fe’i datblygir ar lefel sylfaenol ar gyfer dylunio, gosod, fformatio delweddau, rhifo a rhoi pethau mewn trefn.
Sgiliau pwnc penodol Bydd hyn yn cynnwys cywirdeb ac addasrwydd iaith, arddull ysgrifennu, strwythurau generig a phenodol ar gyfer testunau o fewn meysydd pwnc dethol.
Sgiliau ymchwil Mae pob aseiniadau yn gofyn am ddarllen a chynllunio a wneir drwy amrywiaeth o adnoddau academaidd. Bydd y rhain yn cynnwys rhestrau darllen electronig a ddarperir gan Wasanaethau Gwybodaeth a deunydd cefnogol dethol a adnabyddir yn annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Er mwyn cwblhau aseiniadau’n llwyddiannus, bydd gofyn i fyfyrwyr ddatblygu dogfennau gan ddefnyddio prosesydd geiriau a dogfennau ar gyfer cyflwyniadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ddatblygu adnoddau gwybodaeth a ddylunnir yn weledol ac adnoddau a ysgrifennir ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3