Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad nas gwelir ymlaen llaw | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2500 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig (2500 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Nodi ac esbonio egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd mewn manylder, yn ogystal â dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
2. Nodi, dadansoddi a chloriannu’r elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.
3. Dangos dealltwriaeth dda o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.
4. Cloriannu a dadansoddi cwmpas cyfraith camwedd, nodi problemau cyfredol mewn modd rhesymegol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
5. Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr â chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a chloriannu cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.
6. Llunio dadleuon credadwy ac argyhoeddiadol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.
Cynnwys
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynnwys
- Cyflwyniad i gyfraith camwedd
- Camweddau bwriadol yn erbyn y person
- Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
- Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
- Amddiffyniadau i esgeuluster
- Niwsans
- Rylands v Fletcher
- Difenwad
- Diogelu preifatrwydd
- Atebolrwydd am anifeiliaid
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol. |
Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn yr arholiad. |
Gwaith Tim | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5