Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr Cwis Blackboard yn ystod y Tymor 2 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1250 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | 20 Awr Diwrnod o weithgareddau ar y penwythnos a chyflwyniad grŵp Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau ar y penwythnos lle maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp. Ar sail hyn bydd y grwpiau yn paratoi ac yn cyflwyno cyflwyniad yn y tiwtorialau. Mae'r cyflwyniad grŵp yn adlewyrchu ar y diwrnod o weithgaredd (gan gynnwys asesiad beirniad o berfformiad y myfyrwyr eu hunain) ac yn cynnwys y defnydd o ffigurau i gynrychioli data. | 60% |
Asesiad Semester | 2 Awr Cwis Blackboard yn ystod y Tymor Cwis Blackboard yn ymdrin â cheisiadau am swyddi (gan gynnwys ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol), yn ogystal â chynrychioli data a defnyddio offer cyfrifiadurol 2 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall sut i ysgrifennu cais am swydd gan gynnwys CV priodol a llythyr eglurhaol
Arddangos sgiliau sylfaenol rheolaeth amser, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu academaidd
Adolygu'n feirniadol eu perfformiad eu hunain
Defnyddio offer cyfrifiadurol i gefnogi astudio yn y brifysgol
Dylunio a rhoi cyflwyniad
Gwybod am dechnegau hanfodol ar gyfer cyflwyno data
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn ystyried ystod o wahanol offer perthnasol gan gynnwys meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno. Mae ystyriaeth arbennig
yn cael ei roi i'r agwedd ar gyflwyniad priodol o ddata. Caiff pynciau eu harchwilio a'u cyflwyno mewn nifer o ddarlithoedd. Mae tiwtorialau wythnosol yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu a datblygu ac ymarfer eu sgiliau.
Nod
Mae’r modiwl yn ymdrin â deunydd nad yw’n cael sylw yn unman arall mewn modiwlau penodol ond sy’n hanfodol er mwyn cael gwerthfawrogiad mwy cyflawn o’r maes yn ei gyfanrwydd. Mae sgiliau trosglwyddadwy personol yn nodwedd bwysig i unrhyw wyddonydd cyfrifiadurol ac yn rhan hanfodol o'r modiwl hwn.
Cynnwys
1) Bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth (modiwlau, gweithgareddau addysgu, asesu; arfer academaidd da a drwg (gan gynnwys arfer academaidd annerbyniol); offer astudio digidol)
2) Astudio a chydweithio ag eraill (gweithio fel rhan o dîm
(gan ystyried grwpiau hunan-drefnus a gorfodol); cydraddoldeb ac amrywioldeb)
3) Defnyddio gwaith eraill (chwilio llenyddiaeth; cyfeirnodi; defnyddio llyfrgelloedd codau)
4) Meddalwedd i greu cyflwyniadau (meddalwedd cyflwyno;
creu posteri)
5) Cyflwyno gwaith (ysgrifennu adroddiadau technegol; creu cyflwyniadau; cyflwyno data)
6) Meddalwedd i greu dogfennau (meddalwedd prosesu geiriau; meddalwedd paratoi dogfennau; offer cyfeirio)
7) Trefnu eich astudiaethau (cymryd nodiadau; rheolaeth amser)
8) Cyflogadwyedd (ysgrifennu cais am swydd; profiad gwaith a
datblygu sgiliau)
9) Paratoi ar gyfer asesiad (technegau paratoi ar gyfer arholiadau; cynllunio ar gyfer aseiniadau)
10) Cynllunio eich dyfodol (dewisiadau modiwl; gwaith prosiect)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu effeithiol fel rhan o dîm; sgiliau ysgrifennu (ar gyfer ymgeisio am swydd); sgiliau cyflwyno; hanfodol i ddeilliannau dysgu 1:2:5 |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Un o agweddau allweddol y modiwl; hanfodol ar gyfer canlyniad dysgu 1 |
Gwaith Tim | Hanfodol ar gyfer y diwrnod o weithgareddau a chyflwyniad grŵp; hanfodol ar gyfer canlyniad dysgu 2 |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Hanfodol ar gyfer canlyniad dysgu 3 |
Sgiliau ymchwil | Hanfodol ar gyfer canlyniadau dysgu 4:6 |
Technoleg Gwybodaeth | Yn amlwg mewn sawl agwedd yn y modiwl; hanfodol ar gyfer deilliant dysgu 4-6 |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4