Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Adroddiad 2,500 gair | 50% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Supplementary Assessment | Adroddiad Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2,500 gair | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Archwilio datblygiad hanesyddol rheoli adnoddau dynol, fel disgyblaeth academaidd ac o fewn sefydliadau.
2. Lleoli ymagweddau sefydliadau tuag at recriwtio, dethol a hyfforddi o fewn cyd-destun ehangach cysylltiadau diwydiannol.
3. Cloriannu’n feirniadol strwythurau ar gyfer rheoli perfformiad a gwobrwyo gweithwyr, gan gyfeirio at eu goblygiadau o ran cymell ac ysgogi gweithwyr.
4. Asesu’n feirniadol ymagweddau sefydliadau tuag at iechyd a diogelwch gweithwyr, a materion moesegol megis lles a chynaliadwyedd.
5. Cloriannu pwysigrwydd arweinyddiaeth mewn sefydliad.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn edrych ar gysyniadau allweddol Rheoli Adnoddau Dynol a ddefnyddir i arwain, ysgogi, rheoli a gwobrwyo pobl mewn sefydliadau cyfoes.
Content
- Canlyniadau Rheoli Adnoddau Dynol a rheoli llinell
- Cynllunio’r gweithlu ac amrywioldeb, recriwtio a dethol
- Rheoli perfformiad a gwerthuso, datblygu adnoddau dynol- Gwobrau ac anghydraddoldeb, cysylltiadau llafur a chyd-fargeinio
- Moeseg, iechyd a diogelwch gweithwyr, lles gweithwyr, cynaliadwyedd
- Arweinyddiaeth ac ysgogi
- Rheoli Adnoddau Dynol a diwylliant sefydliadol.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Dadansoddi adroddiadau rhifyddol perthnasol, yn enwedig wrth wneud gwaith cwrs |
Communication | Cyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio amryw ddulliau a fformatau adrodd. |
Improving own Learning and Performance | Bydd y myfyrwyr yn dangos ymwybyddiaeth o’u harddulliau dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion personol, gan nodi’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu. Dangos hunanymwybyddiaeth a rheoli’r dasg o gwblhau gwaith cwrs a datblygu sgiliau ymchwil. |
Information Technology | Trwy ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol o wahanol ffynonellau, defnyddio sgiliau prosesu geiriau wrth gwblhau gwaith cwrs, datblygu sgiliau PowerPoint a sgiliau cyflwyno. |
Personal Development and Career planning | Nodi arddulliau dysgu, datblygu meddwl creadigol, trafod rôl y swyddogaeth AD o ran recriwtio graddedigion. |
Problem solving | Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i faterion yn ymwneud â datrys problemau a bydd y myfyrwyr yn gweithio drwyddynt ym mhob rhan o’r modiwl. Disgwylir iddynt nodi a mynd i’r afael â’r problemau a’r materion trwy gydol y cwrs, ac fe’u hanogir i ehangu eu ffiniau presennol i ateb y cwestiynau hyn mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. |
Research skills | Bydd gofyn i’r myfyrwyr baratoi aseiniad unigol wedi’i seilio ar ddata a gwybodaeth y bydd yn rhaid iddynt eu casglu ynghyd, gan drefnu’r holl wybodaeth a gasglwyd yn rhesymegol mewn dogfen ysgrifenedig. Bydd angen i’r myfyrwyr ddangos eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal ag yn eu hymarferion grŵp. |
Subject Specific Skills | Gallu lleoli swyddogaeth Rheoli Adnoddau Dynol o fewn y sefydliad a’r amgylchedd busnes ehangach. |
Team work | Bydd y seminarau yn cynnwys ymarferion grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 5