Module Information
Cod y Modiwl
BG36320
Teitl y Modiwl
Adolygiad critigol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Asesiad llafar Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau o asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. 10 Munud | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. 3500 o eiriau | 80% |
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig 3500 o eiriau | 80% |
Asesiad Semester | Asesiad llafar Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad llafar 10-mun yn seiliedig ar eu Adolygiad Critigol | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
Dehongli canlyniadau dadansoddiadau data mewn llenyddiaeth academaidd.
Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a ffurfio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y cwestiynau ymchwil a’r casgliadau mewn adroddiad ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Bydd gofyn i fyfyrwyr lunio dadansoddiad o ysgrifennu poblogaidd, llenyddiaeth estyn, neu’r llenyddiaeth “lwyd”, sy’n ymdrin â phwnc academaidd sy’n berthnasol i’w cynllun gradd. Gofynnir i fyfyrwyr nodi’r cwestiynau pwysig y mae’r erthygl yn mynd i’r afael â hwy, a natur yr atebion y mae’n eu cynnig. Yna dylid nodi corff o lenyddiaeth wyddonol/briodol sy’n berthnasol i’r cwestiynau hyn, a llunio adolygiad strwythuredig i drafod i ba raddau y cefnogir yr erthygl gan y llenyddiaeth berthnasol, y rhesymau am hyn, a chyfeiriadau posibl ar gyfer y maes ymchwil yn y dyfodol. Bydd yr holl brosiectau’n gofyn i’r myfyrwyr weithio’n annibynnol o dan arweiniad goruchwyliwr.
Bydd y tasgau deallusol ynghlwm wrth baratoi’r adroddiad yn cynnwys:
1. Llunio adolygiad strwythuredig sy’n dangos ymagwedd systematig tuag at ddatrys problemau
2. Cloriannu sylwadau ysgrifenedig mewn llenyddiaeth boblogaidd a llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid
3. Ymchwilio a chloriannu dadansoddiadau data yn y llenyddiaeth academaidd. Gall rhai adroddiadau estyn i gynnwys dadansoddiadau ystadegol mwy ffurfiol, ond ni fydd hyn yn orfodol.
4. Ystyried tystiolaeth anghyson, a nodi agweddau o gynllunio arbrofol a dulliau ymchwil sy’n achosi’r anghysondeb hwn.
5. Nodi bylchau yn yr ymchwil ynghyd a chyfeiriadau posibl ar gyfer y maes ymchwil yn y dyfodol.
Bydd y tasgau deallusol ynghlwm wrth baratoi’r adroddiad yn cynnwys:
1. Llunio adolygiad strwythuredig sy’n dangos ymagwedd systematig tuag at ddatrys problemau
2. Cloriannu sylwadau ysgrifenedig mewn llenyddiaeth boblogaidd a llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid
3. Ymchwilio a chloriannu dadansoddiadau data yn y llenyddiaeth academaidd. Gall rhai adroddiadau estyn i gynnwys dadansoddiadau ystadegol mwy ffurfiol, ond ni fydd hyn yn orfodol.
4. Ystyried tystiolaeth anghyson, a nodi agweddau o gynllunio arbrofol a dulliau ymchwil sy’n achosi’r anghysondeb hwn.
5. Nodi bylchau yn yr ymchwil ynghyd a chyfeiriadau posibl ar gyfer y maes ymchwil yn y dyfodol.
Cynnwys
Bydd natur yr adolygiad yn adlewyrchu diddordebau’r myfyrwyr unigol ac er y bydd amrywiaeth o ran pwyslais y gwaith, mae’r holl adroddiadau’n ddarostyngedig i’r un rheoliadau a rhaid iddynt geisio cyflawni’r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gynnal cyswllt rheolaidd gyda’u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semestrau) i drafod cynnydd eu gwaith.
Bydd darlith gyflwyniadol yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio. Cynhelir cymorthfeydd galw heibio dewisol bob pythefnos i ddarparu cyngor ar agweddau penodol o baratoi’r adroddiad.
Bydd darlith gyflwyniadol yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio. Cynhelir cymorthfeydd galw heibio dewisol bob pythefnos i ddarparu cyngor ar agweddau penodol o baratoi’r adroddiad.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod cyfarfodydd goruchwylio – asesir hyn trwy ddehongli’r rhain yn y gwaith gorffenedig. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio’r traethawd ymchwil. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil. |
Datrys Problemau | Anogir myfyrwyr i werthuso’r prif destunau yn feirniadol ac i feddwl yn greadigol i ganfod bylchau yn yr ymchwil. |
Gwaith Tim | Nid yw’n elfen benodol o’r modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn llunio cynlluniau gweithredu personol i nodi eu hamcanion ac i adolygu a monitro eu cynnydd. Byddant yn diwygio’r cynlluniau gweithredu fel bo’n briodol i wella’u perfformiad yn gyffredinol. |
Rhifedd | Bydd myfyrwyr yn dehongli dadansoddiadau data. Mae’n bosib y bydd yna elfen o drin data o’r lenyddiaeth yn fathemategol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y sgiliau pwnc-benodol a ddatblygir yn dibynnu ar natur y pwnc a ddewiswyd. |
Sgiliau ymchwil | Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddeall a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau ymchwil, a llunio adroddiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data, ac wrth baratoi’r adroddiad terfynol. Mae’n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn ymdrin â’r data yn ystadegol drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6