Module Information

Cod y Modiwl
BG32620
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Asesiad llafar  Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau o asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. 30 Munud  70%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig  Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. 1500 o eiriau  30%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig  1500 o eiriau  30%
Asesiad Semester Asesiad llafar  Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad llafar 10-mun yn seiliedig ar eu Adolygiad Critigol 30 Munud  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.

Nodi a chymhwyso technegau priodol o ddylunio astudiaeth a dadansoddi data.

Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a ffurfio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y cwestiynau ymchwil a’r casgliadau mewn adroddiad ysgrifenedig.

Adnabod a chyflwyno themâu allweddol y prosiect ymchwil ar ffurf cyflwyniad llafar.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud ymchwil ar bwnc sy'n berthnasol i'w gradd neu eu diddordebau. Gall prosiectau fod yn seiliedig ar ymarferion labordy neu waith maes, dadansoddiad cyfrifiadurol o ffynonellau data eilaidd a/neu ddadansoddiad o ddata a gafwyd o lenyddiaeth gyhoeddedig. Bydd pob prosiect, waeth beth fo'u dull, yn gofyn i fyfyrwyr weithio'n annibynnol o dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, cynnal gwaith ymchwiliol a dadansoddi data, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno hyn ar ffurf cyflwyniad. a dogfen gyhoeddi estyniad.

Cynnwys

Bydd amrywiaeth eang ym mhwyslais y prosiect ymchwil. Mae pob prosiect yn cael ei lywodraethu gan yr un rheoliadau a rhaid iddo anelu at gyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gadw cysylltiad rheolaidd â'u goruchwyliwr (tua unwaith bob pythefnos yn ystod y semester) i drafod cynnydd.
Bydd darlith ragarweiniol yn y semester 1af yn rhoi arweiniad ar sut i fynd i'r afael â'r prosiect ymchwil ac yna bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i gydlynydd y modiwl. Bydd darlithoedd dilynol yn rhoi rhagor o wybodaeth a chynhelir sesiynau holi ac ateb dewisol i roi cyngor ar agweddau penodol o'r prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod cyfarfodydd goruchwylio – asesir hyn trwy ddehongli’r rhain yn y gwaith gorffenedig. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio’r traethawd ymchwil.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil.
Datrys Problemau Anogir myfyrwyr i werthuso’r prif destunau yn feirniadol ac i feddwl yn greadigol i ganfod bylchau yn yr ymchwil.
Gwaith Tim Nid yw’n elfen benodol o’r modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn llunio cynlluniau gweithredu personol i nodi eu hamcanion ac i adolygu a monitro eu cynnydd. Byddant yn diwygio’r cynlluniau gweithredu fel bo’n briodol i wella’u perfformiad yn gyffredinol.
Rhifedd Bydd myfyrwyr yn dehongli dadansoddiadau data. Mae’n bosib y bydd yna elfen o drin data o’r lenyddiaeth yn fathemategol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y sgiliau pwnc-benodol a ddatblygir yn dibynnu ar natur y pwnc a ddewiswyd.
Sgiliau ymchwil Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddeall a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau ymchwil, a llunio adroddiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data, ac wrth baratoi’r adroddiad terfynol. Mae’n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn ymdrin â’r data yn ystadegol drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6