Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar 5 Munud | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad 2000 o eiriau | 65% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar grwp 5 Munud | 35% |
Asesiad Semester | Adroddiad 2000 o eiriau | 65% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.
Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.
Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd.
Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
Dehongli a defnyddio data.
Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
Dilyn protocol arbrofol
Cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata arbrofol yn briodol
Cyflwyno data/cysyniadau trwy amrywiaeth o gyfryngau
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig o'r modiwl yw i roi cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyfres o arbrofion cysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ar draws bioleg. Datblygir sgiliau gweithio mewn grŵp trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn rhoi arweiniad ar gyflwyno/dehongli data arbrofol.
Nod
Mae angen cyflwyniad cynnar i set o sgiliau labordy moleciwlaidd sylfaenol ar fyfyrwyr sy'n astudio gwyddorau biolegol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio cyfres o arbrofion integredig i gyflwyno myfyrwyr i'r technegau sylfaenol hyn. Bydd sgiliau gweithio mewn grŵp yn cael eu datblygu trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn darparu arweiniad ar gyfer cyflwyno/dehongli data arbrofol.
Cynnwys
x5 o ddarlithoedd 1 awr rhagarweiniol ffurfiol dros 5 wythnos gyntaf semester 1
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Semester 2
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Yn wythnos 1, bydd myfyrwyr yn mynychu cyfres o ddosbarthiadau labordy cysylltiedig bob prynhawn
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli amser a chwrdd â therfynau amser. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau a'u hoffterau dysgu eu hunain a nodi eu hanghenion a'u rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. |
Cydlynu ag erail | Gwneir yr ymchwil ar gyfer y prosiect mewn grwpiau tiwtor personol i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniadau o weithio mewn tîm, ac, yn seiliedig ar adborth gan y grŵp, mae'n ofynnol i diwtoriaid roi sylwadau ar gyfraniad aelodau unigol o'r grŵp tuag at gyflawni'r allbynnau grŵp gofynnol. |
Cyfathrebu proffesiynol | Mae'r traethawd ffurfiannol, adroddiad prosiect a chyflwyniad seminar, gyda'r adborth manwl a ddarperir gan diwtoriaid personol, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyfathrebu. |
Datrys Problemau Creadigol | Gellir cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu’r ddamcaniaeth i danategu eu prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn. |
Gallu digidol | Ar draws yr aseiniadau amrywiol, mae gofyn i fyfyrwyr ddangos defnydd effeithiol o ystod o becynnau meddalwedd TG perthnasol (Word, Excel, PowerPoint). |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd briodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd wneud sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a fabwysiadwyd. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Cymhwyso rhif: Casglu a chraffu ar ddata o ran ansawdd a swm. Dehongli data. Bydd cysyniadau pwnc-benodol yn ymwneud â biocemeg, geneteg a microbioleg yn cael eu datblygu. Bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o arbrofi mewn labordy, a defnyddio dulliau labordy cyffredin yn briodol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4