Module Information

Cod y Modiwl
ADM2820
Teitl y Modiwl
Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio  4000 Words  100%
Asesiad Semester Portffolio  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dadansoddi a gwerthuso gwahanol ddulliau o gynllunio’r cwricwlwm mewn cysylltiad â dysgu, addysgu ac arwain.

Ymgysylltu’n feirniadol ag athroniaeth, rhaglenni a pholisïau datblygu cwricwlwm mewn awdurdodaethau rhyngwladol eraill.

Dadansoddi’n feirniadol strategaethau newid mewn cysylltiad â gwireddu a gweithredu cwricwlwm.

Gwerthuso gwahanol ddulliau o gynllunio cwricwlwm ac arfarnu’n feirniadol yr amryw o brosesau gweithredu sy’n cyd-fynd â newid cwricwlwm mewn sefydliadau a systemau addysg.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n ddwfn â’r cysyniadau a’r ymchwil rhyngwladol sydd wedi hysbysu datblygiad diweddar y cwricwlwm yng Nghymru. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ystyried trefniadau cynllunio a gwireddu cwricwlwm mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys eu rhai eu hunain. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i werthuso gwahanol ddulliau o gynllunio cwricwlwm ac i werthuso’n feirniadol y prosesau gweithredu amrywiol sy’n cyd-fynd â newid cwricwlwm o fewn sefydliadau a systemau addysg.

Nod

Mae’r modiwl yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddiben ac egwyddorion cynllun cwricwlwm o ran dysgu, addysgu ac arwain effeithiol ar bob lefel. Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ymhlith myfyrwyr o’r strategaethau sydd eu hangen i newid a gweithredu cwricwlwm, er enghraifft, pwrpas sybsidiaredd. Bydd y modiwl hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i gymhwyso’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddatblygiad cwricwlwm i’w cyd-destun eu hunain ac i gymharu hwn â threfniadau chynllunio a gwireddu cwricwlwm mewn lleoliadau eraill.

Cynnwys

  • Archwilio gwahanol fodelau theori a chynllunio cwricwlwm gan gynnwys cwricwla wedi’u llywio gan ddiben.
  • Cymariaethau rhyngwladol o fodelau cwricwlwm gan gynnwys Seland Newydd, Norwy, Singapôr, Canada a’r Iseldiroedd a’u goblygiadau i gyd-destun Cymru;
  • Ymgysylltu’n feirniadol â’r gyfundrefn asesu flaenorol yng Nghymru, ei anawsterau a sut y bydd dulliau newydd yn effeithio ar arfer proffesiynol;
  • Ymgysylltu ag egwyddorion cynnydd a’r berthynas rhwng cwricwlwm lefel ysgol a chynnydd dysgwyr dros amser;
  • Ymgysylltu â modelau datblygu a chynllunio iteraidd, gan gynnwys ymgysylltu â llais y dysgwr;
  • Ystyried yn feirniadol ddatblygiad y cwricwlwm a chyfrwng addysgu, gyda phwyslais yn benodol i gontinwwm a dulliau priodol o ddatblygu'r Gymraeg drwy gyflwyno'r cwricwlwm;
  • Ymgysylltu’n feirniadol â’r dadleuon rhyngwladol ynglŷn â swyddogaeth a dewis gwybodaeth a chynnwys cwricwlwm.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7