Module Information

Cod y Modiwl
ADM2520
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Creu ‘blwch offer’ i gefnogi ymarfer  4000 Words  100%
Asesiad Semester Creu ‘blwch offer’ i gefnogi ymarfer  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Ymgysylltu’n feirniadol â dadleuon ynglŷn â chynhwysiant mewn addysg, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â dysgwyr mwy galluog.

Dadansoddi cryfderau a gwendidau polisi ADY yn eu cyd-destun.

Dadansoddi’r heriau allweddol sy’n creu rhwystrau i gefnogi anghenion dysgwyr ag ADY a sut y dylid mynd i’r afael â’r rhain yn yr ystafell ddosbarth.

Herio’n feirniadol ac yn greadigol arfer cyfredol ar sail eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ffactorau sy’n effeithio ar ADY.

Archwilio cydweithrediad effeithiol ag eraill er mwyn cefnogi myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth yn y ffordd orau.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ymgysylltu â’r dadleuon allweddol ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y modiwl yn cyfuno damcaniaethau ADY ag ymchwil ar arferion gorau. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r damcaniaethau a’r dadleuon diweddaraf i feddwl yn feirniadol am ADY yng Nghymru a sut y maent yn berthnasol yn ymarferol i’r ystafelloedd dosbarth o’r ysgol hyd at addysg bellach. Felly, bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth lawn o theori ac ymarfer ym maes ADY. Bydd y myfyrwyr yn datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol am y drafodaeth gyfredol ac yn cymhwyso’u gwybodaeth i arfer ystafell ddosbarth. Hefyd, anogir myfyrwyr i gydweithio a rhannu ymarferion gorau ym maes ADY a chynhwysiant.

Nod

1. Rhoi dealltwriaeth gref i fyfyrwyr o ymarfer cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth.

2. Gwerthuso’r damcaniaethau allweddol sylfaenol ynghylch ymarfer cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth a dadansoddi’r berthynas rhwng theori, polisi ac ymarfer.

3. Pennu’r heriau o gefnogi dysgwyr ag ADY ym maes addysg.

Cynnwys

  • Diffiniadau o dermau allweddol gan gynnwys cynhwysiant ac anghenion dysgu ychwanegol (gan ganolbwyntio ar Gymru);
  • Trosolwg eang o ADY yng Nghymru
  • Addysgeg gynhwysol effeithiol;
  • Cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a swyddogaeth y CDU
  • Dosbarthu ac asesu ADY
  • Effaith diagnosis o ADY
  • Mynd i’r afael â safbwyntiau damcaniaethol allweddol e.e. modelau anabledd cymdeithasol a meddygol;
  • Arferion da o ran diwallu anghenion dysgwyr ag ystod o anawsterau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7