Module Information

Cod y Modiwl
AD34820
Teitl y Modiwl
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Poster (A3) ac amddiffyniad llafar  10 Munud  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2400 o eiriau  60%
Asesiad Semester Traethawd  2400 o eiriau  60%
Asesiad Semester Poster (A3) ac amddiffyniad llafar  10 Munud  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth feirniadol o brif egwyddorion datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u heffaith ar ddysgu.

Deall y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol ac emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod plentyndod cynnar.

Adnabod y dangosyddion allweddol ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u defnyddio i gefnogi dysgu, iechyd meddwl a lles plant yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Mae datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant yn effeithio ar y ffordd y maent yn dysgu. Ymdeimlad o hunaniaeth, o berthyn a hyder yw’r arwyddion allweddol wrth ddatblygu dysgwyr hapus ac iach. Mae angen i ymarferwyr blynyddoedd cynnar allu cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol plant a rhoi dulliau addysgegol ar waith i adeiladu ar gryfderau a diddordebau’r plant. Bydd y modiwl hwn yn dangos pwysigrwydd datblygiad cymdeithasol ac emosiynol o ran dysgu a sut y gall ymarferwyr ymgorffori dulliau cymorth yn eu harferion.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn seiliedig ar y pethau canlynol:

1. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol I
2. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol II
3. Iechyd Meddwl
4. Cerrig milltir, ffactorau risg a strategaethau
5. Asesu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
6. Casglu data yn effeithiol
7. Monitro a chloriannu darpariaeth
8. Meithrin perthynas gadarnhaol ag eraill
9. Yr amgylchedd
10.Partneriaethau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau a’u cloriannu
Datrys Problemau Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol
Gwaith Tim Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei datblygu trwy gydol y modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol.
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6