Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad atodol 1 Gosodir teitlau aseiniad newydd. 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad atodol 2 Cynllun gwers a cyfiawnhad 1200 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 Cynllun gwers a cyfiawnhad 1200 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 1 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o ddatblygiad mathemategol cynnar plant ifainc.
Adolygu a thrafod yn feirniadol y cysyniadau, y dadleuon a'r egwyddorion ynghylch datblygiad mathemategol.
Archwilio'r feirniadol y ffyrdd y mae plant ifainc yn dysgu mathemateg.
Gwerthuso'r feirniadol effeithiau rhieni, athrawon a pholisiau'r llywodraeth ar ddatblygiad mathemategol cynnar.
Arddangos ymgysylltu beirniadol a'r ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Mae addysg fathemategol plant ifanc yn ganolog i'w datblygiad diweddarach o'r pwnc. Gan archwilio amrywiaeth o faterion, gan gynnwys hyder a phryder mathemategol, bydd myfyrwyr yn deall yr arwyddocâd y gall profiadau mathemategol cynnar ei gael ar ddysgu mathemategol diweddarach plant. Fel rhan o'r modiwl, bydd myfyrwyr yn myfyrio'n feirniadol ar eu profiadau mathemategol eu hunain ac yn meddwl am yr effaith y gallai'r rhain fod wedi'u cael. Yn ogystal, bydd technegau addysgeg ar gyfer addysgu mathemateg effeithiol yn cael eu harchwilio, ynghyd ag ystyriaeth feirniadol o'r polisi a'r arweiniad diweddaraf ar ddysgu mathemategol.
Cynnwys
A ddylem ni ddysgu mathemateg?
Sut ddylem ni addysgu mathemateg?
Sut ddylem ni asesu mathemateg?
Pam mae mathemateg yn gallu ein gwneud yn bryderus?
Ble mae mathemateg o fewn y cwricwlwm?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mathemateg a rhifedd?
Sut ydym ni'n diwallu anghenion gwahanol ddisgyblion mewn mathemateg?
A ellir defnyddio pynciau eraill i ddysgu mathemateg?
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol. |
Gwaith Tim | Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad. |
Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar. |
Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd un o'r tasgau seminar yn gofyn am lunio cyflwyniad PowerPoint. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6