Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Atodol 2 Datganiad o fethodoleg ar gyfer traethawd hir trydydd blwyddyn y myfyrwyr 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseinaid Atodol 1 Amlinelliad pwnc ac adolygiad llenyddiaeth ar bwnc o ddewis y myfyriwr a fydd yn sail i'w traethawd hir trydedd flwyddyn 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 1 Amlinelliad pwnc ac adolygiad llenyddiaeth ar bwnc o ddewis y myfyriwr a fydd yn sail i'w traethawd hir trydedd flwyddyn 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad 2 Datganiad o fethodoleg ar gyfer traethawd hir trydydd blwyddyn y myfyrwyr 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso'n feirniadol ystod o ddyluniadau ymchwil a'u haddasrwydd ar gyfer gwahanol gyd-destunau ymchwil sy'n gysylltiedig ag ymchwil addysgol.
Gwerthuso'n feirniadol wahanol fathau o ddylunio ymchwil, gan gynnwys eu cryfderau, cyfyngiadau a chymhwyso mewn ymchwil addysgol.
Cynnal adolygiad beirniadol o lenyddiaeth berthnasol yn eu maes ymchwil dewisol, gan nodi themâu allweddol a chyfleoedd ar gyfer ymchwil bellach.
Datblygu methodoleg ymchwil gydlynol ar gyfer prosiect ar raddfa fach, gan gynnwys trafodaeth ar faterion a strategaethau moesegol posibl i fynd i'r afael â nhw.
Dangos ymgysylltiad beirniadol â deunydd ffynhonnell, gan integreiddio cysyniadau damcaniaethol ag ystyriaethau ymchwil ymarferol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr ar gyfer cymhwyso ymchwil yn ymarferol ac ar alluogi myfyrwyr i: ymgysylltu'n feirniadol â llenyddiaeth; nodi pwnc ymchwil; llunio cwestiynau ymchwil; myfyrio ar faterion methodolegol; ac ymgysylltu ag ystyriaethau moesegol allweddol.
Erbyn diwedd y modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu ateb yn hyderus:
Beth yw'r prif ddulliau ymchwil a ddefnyddir mewn ymchwil addysgol, a beth yw eu cryfderau a'u cyfyngiadau?
Sut ydw i'n dewis pwnc ymchwil priodol?
Sut mae dylunio a chynllunio prosiect ymchwil ar raddfa fach, o ddatblygu cwestiynau ymchwil i ddewis dulliau?
Sut alla i gasglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol yn effeithiol?
Pa ystyriaethau moesegol sy'n hanfodol wrth gynnal ymchwil addysgol?
Cynnwys
Cyflwyniad i Ymchwil mewn Addysg
Darllen Beirniadol a Llunio Cwestiynau Ymchwil
Strwythuro Adolygiad Llenyddiaeth
Dulliau Ymchwil Ansoddol
Dulliau Ymchwil Meintiol
Cynllunio a Dylunio Methodoleg Ymchwil
Moeseg Ymchwil a Llywio Heriau Moesegol
Moeseg Ymchwil a Dulliau gyda Phlant
Strwythuro datganiad methodolegol a llunio cynnig traethawd hir
Gweithio gyda Data a Meddwl Ymlaen
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn cael ei ddatblygu drwy asesiadau ysgrifenedig, gan gynnwys yr adolygiad llenyddiaeth a'r datganiad methodolegol. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hymarfer drwy weithgareddau seminar a gweithdai. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn rhoi profiad ymarferol mewn ymchwil, gan ddatblygu rheolaeth amser, hunan ddisgyblaeth a myfyrdod personol. Bydd paratoi ar gyfer prosiect ymchwil graddfa fach hefyd yn paratoi myfyrwyr am astudiaethau ôl-raddedig posibl neu rolau addysgiadol proffesiynol sydd angen sgiliau ymchwilio. |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau wedi'i wreiddio yn y broses ymchwil, o lunio cwestiynau ymchwil i oresgyn heriau wrth nodi llenyddiaeth allweddol, llunio'r dulliau casglu data mwyaf cymhellol, myfyrio ar faterion moesegol, ac mewn perthynas â dadansoddi, a dehongli |
Gwaith Tim | Tra bod llawer o'r gwaith o ddatblygu prosiectau ymchwil yn waith unigol, bydd gwaith tîm yn amlwg yn y gweithdai a'r gweithgareddau adolygiad cyfoedion. Bydd dysgu cydweithredol yn help i fyfyrwyr fireinio eu syniadau a'u dulliau ymchwil. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn adlewyrchu ar adborth o'u haseiniadau ysgrifenedig ac yn cymhwyso myfyrdodau personol yn y sesiynau. Bydd cynllunio annibynnol a rheolaeth amser yn allweddol wrth i'r myfyrwyr reoli eu haseiniadau a chynllunio ar gyfer eu prosiectau ymchwil. |
Rhifedd | Bydd myfyrwyr yn gwerthuso'n feirniadol adroddiadau ystadegol i gefnogi eu gwerthfawrogiad o ddulliau meintiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymchwilio sut i ddehongli a chyflwyno data meintiol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â chysyniadau a damcaniaethau methodolegol sy'n berthnasol i ymchwil addysgol. Bydd y gallu i asesu llenyddiaeth ymchwil yn feirniadol a chymhwyso dulliau priodol yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar sgiliau ymchwil craidd, gan arwain myfyrwyr trwy gynllunio, cynnal ac ysgrifennu prosiect ymchwil ar raddfa fach. Rhoddir pwyslais ar ddeall ystyriaethau moesegol, dulliau casglu data, a dylunio ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir prosesu geiriau i greu pob gwaith ysgrifenedig. Bydd sgiliau ymchwilio i lenyddiaeth ar-lein a rheoli adnoddau digidol yn cael eu datblygu. cyflwynir myfyrwyr i feddalwedd dadansoddi data. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5